Gŵyl Ynysu – Cyfraniad Bethesda.

Dafydd Hedd yn casglu arian ar gyfer cronfa fwyd COVID-19.

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

Ar ddydd Sul, 29ain o Fawrth, cafodd Cymru ymysg yr holl drafferth gyda COVID-19 gŵyl i’w chofio. Ei enw oedd Gŵyl Ynysu ac mi roedd hi wedi cynnwys 13 o artistiaid gwahanol ar draws y sin, yn cynnwys Elis Derby, Sera, Dienw, Gwilym, a Dafydd Hedd.

 

Cafodd Dafydd Hedd, yn enedigol o Fethesda ac yn dal I fyw yno, y syniad o hel pres at gronfa fwyd COVID-19 lle mae parseli bwyd yn cael ei dosbarthu am ddim I bobl sydd mewn angen. Casglodd Dafydd £36 ar y noson, ac mae’n debyg fod yna bres dal i ddod I fewn. Os ydych chi eisiau cyfrannu, mae’r ddolen yma: www.buymeacoffee.com/DafyddHed

d

 

Mae ei set wedi cael ei gweld gan 413 o wylwyr ar Facebook ac erbyn hyn mae’r set ar ei sianel YouTube: