Gwrthdrawiad difrifol yn Tregarth

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Nhregarth. 

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun – Uned Plismona’r Ffyrdd – Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Nhregarth.

Galwyd y gwasanaethau brys ychydig cyn 1:30 bore dydd Mercher (Mawrth 4) yn dilyn gwrthdrawiad rhwng un cerbyd a beic.

Cludwyd y beiciwr 16 oed sydd wedi dioddef anafiadau difrifol i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ers hynny mae’r unigolyn wedi cael ei symud i’r ysbyty yn Stoke.

Dywedodd y Rhingyll Meurig Jones o’r Uned Plismona Ffyrdd:

“Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi gweld y beic yn cael ei reidio cyn y gwrthdrawiad i siarad gyda Heddlu Gogledd Cymru. ”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad gysylltu â swyddogion yn yr Uned Plismona Ffyrdd ar 101 neu trwy’r sgwrs we fyw gan ddyfynnu cyfeirnod Y030666.