Gwobrwyo Gruff Rhys am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg

“Heb os, mae Gruff yn un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth” – Y Selar

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llun: Gruff Rhys yn derbyn y wobr (Ffotograffydd: Elis Roberts)

Llun: Gruff Rhys yn derbyn y wobr (Ffotograffydd: Elis Roberts)

Fel rhan o benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth cafwyd noson arbennig i ddathlu cyfraniad y cerddor Gruff Rhys i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r gwobrau wedi cynnwys gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ sy’n cael ei rhoi i artist penodol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig dros gyfnod hir o amser. Eleni, cyn ffryntman Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals, sydd erbyn hyn hefyd yn artist unigol llwyddiannus, Gruff Rhys oedd enillydd y wobr.

Cafodd Gruff Rhys ei fagu yn Rachub ac mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

“Heb os, mae Gruff yn un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth, ac yn wir unrhyw genhedlaeth.”

Meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

“Mae o wedi llwyddo i oroesi’n gerddorol ers y 1980au, gan ymestyn ei gerddoriaeth ymhell tu hwnt i Gymru fach. Trwy hynny mae bob amser wedi bod yn driw i’r iaith ac wedi cenhadu dros y Gymraeg mewn ffordd gynnil ond effeithiol.”

 

“Dwi’n weddol sicr bod Gruff wedi dylanwadu ar lawer o’n cerddorion ifanc heddiw, a’i fod yn hynny wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y sin Gymraeg gyffrous sy’n bodoli ar hyn o bryd.”

Ers wyth mlynedd mae Gwobrau’r Selar– penwythnos blynyddol cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg Y Selar wedi bod yn cyflwyno gwobrau amrywiol i fandiau, artistiaid a phobl eraill sy’n cyfrannu at fywiogrwydd y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Yn ystod y sgwrs gyda chyflwynydd Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth bu i Gruff Rhys fwrw golwg nôl ar ei yrfa, ynghyd â pherfformio caneuon amrywiol.

“Mae’n gryn fraint i gael fy enwi ymysg arwyr.”

Meddai Gruff Rhys.

Enillwyr blaenorol y wobr Cyfraniad Arbennig yw Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones ac un ar y cyd i Mark Roberts a Paul Jones y llynedd.

Cyflwynwyd y wobr ar ddiwedd y noson gan Abigail Fraser, sef yr artist oedd yn gyfrifol am greu’r tlysau ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni. Mae Abigail yn astudio cwrs celf gain yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

 

Darllenwch fwy am benwythnos Gwobrau’r Selar ar BroAber360:

Y band Gwilym ac eraill ar lwyfan Gwobrau'r Selar 2020

‘Penwythnos cofiadwy arall’ – Gwobrau’r Selar

Gohebydd Golwg360

Gwilym yn brif enillwyr Gwobrau’r Selar am yr ail flwyddyn yn olynol.