Gwobr Good Food i gwmni lleol

Gwobrwyo cypcecs Lois

Lois Nottingham
gan Lois Nottingham

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth cyson dros y 7 mlynedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod gwahanol yma.

Cefais wybod fy mod wedi derbyn gwobr “Good Food” ychydig o wythnosau yn ôl ond roedd rhaid cadw’r gyfrinach tan Tachwedd y 1af er mwyn dilyn y rheolau cywir. Roedd rhaid anfon sampl o gypcecs i Llundain i gael eu beirniadu, ac yna ar ôl cyrraedd y rhestr fer gan y beirniaid, roedd y gweddill yn dibynnu ar adborth gan gwsmeriaid. Daeth yr e-bost i gadarnhau fy mod wedi derbyn y wobr ac yna’r dystysgrif swyddogol yn cyrraedd y diwrnod wedyn.

Mae croeso i chi ymweld a fy nhudalen Facebook – Lois’ Cupcakes, a gyrrwch neges i archebu. Does dim llawer o ddyddiadau rhydd ar ôl yn y dyddiadur 2020!

Diolch yn fawr i chi gyd unwaith eto am y gefnogaeth, yr anogaeth a’r negeseuon o longyfarch diweddar.