Gwobr Cyfraniad Arbennig i Gruff Rhys

Gruff Rhys fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig yn seremoni Gwobrau’r Selar eleni.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gruff Rhys fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig yn seremoni Gwobrau’r Selar eleni.

Cafodd y cerddor, sydd fwyaf adnabyddus fel prif leisydd Super Furry Animals, ei fagu yn Rachub ac mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

Perfformiodd yn ddiweddar yng Ngŵyl Ara Deg yn Neuadd Ogwen.

Gwobr Cyfaniad Arbennig

Mae’r wobr yn cael ei roi’n flynyddol gan Wobrau’r Selar i gerddor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sîn Gymraeg dros gyfnod hir o amser, ac sy’n dal i wneud.

Bydd ei gyfraniad yn cael ei ddathlu yn noson Gwobrau’r Selar yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau, Chwefror 13, lle bydd e’n cael ei holi gan Huw Stephens ac yn perfformio nifer o’i ganeuon.

Mae’n ymuno â rhestr sy’n cynnwys Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, a Mark Roberts  a Paul Jones (Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc).

‘Un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth’

Fel drymiwr gyda’r band Machlud y dechreuodd Gruff Rhys ei yrfa fel cerddor, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn aelod o’r band Emily.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Ffa Coffi Pawb yn 1986.

Pan ddaeth Ffa Coffi Pawb i ben yn 1993, ffurfiodd Super Furry Animals ynghyd â Dafydd Ieuan a’i frawd Cian Ciaran, Huw Bunford a Guto Pryce.

Rhys Ifans, yr actor, oedd canwr gwreiddiol y band.

Daeth y band yn un o fawrion y sîn gerddoriaeth o fewn dim o dro, gan ganu yn Saesneg yn bennaf ond roedden nhw’n dal i hybu’r Gymraeg ar draws y byd.

Fe gyrhaeddodd eu halbwm uniaith Gymraeg, Mwng, rif 11 yn siartiau albwm Prydain yn 2000.

Yr Atal Genhedlaeth, oedd cynnyrch unigol cyntaf Gruff Rhys a ryddhawyd yn Ionawr 2005.

Ers hynny mae wedi rhyddhau pum albwm unigol arall, gyda’r diweddaraf, Pang!, unwaith eto’n record gyfan gwbl Gymraeg.

 

Darllenwch y stori wreiddiol ar Golwg360