Gwirfoddolwr y mis!

Dyma wirfoddolwr y mis Siop Ogwen.

gan Fflur Wyn

Enw?
Jonathan (neu Jon) Stammers

Lle wyt ti’n byw?
John Street Bethesda ers 13 mlynedd. Ges i fy magu ym Mangor.

Diddordebau –
Fy mhlant, sgwennu, cerddoriaeth, action, y Beibl, diwinyddiaeth, ieithoedd ac ieithyddiaeth, coginio, gwleidyddiaeth, the Beatles

Ers pryd da chi’n gwirfoddoli yn y siop?
2 flynedd a hanner

Pam wnest ti gychwyn gwirfoddoli?
I ddechrau er mwyn llenwi’r dyddiau rhydd rhwng mynd a’r plant I’r ysgol a nol nhw. Dwi’n licio’r siop yma, mae’n gwerthu pethau diddorol a dwi’n hoffi cadw golwg ar fanylion y stoc. Mae’n dda cael allan o’r tŷ, cyfarfod pobl leol a bod yn rhan o’r gymuned. Ar ddiwrnod tawel fedrai ddarllen fy llyfra.