Lea Glyn wrth ei bodd â sylwadau Dafydd Êl am PYST

Y ferch o’r Dyffryn yn y ‘Diff ac yn cymysgu hefo selebs y sîn roc Gymraeg

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi canmol cwmni PYST – y cwmni cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnig gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig.

Ac mae Lea Glyn, sy’n wreiddiol o Dregarth ac sy’n gweithio i’r cwmni, wrth ei bodd bod gwaith arloesol y cwmni yn cael ei werthfawrogi.

Dros y ddwy flynedd ers sefydlu PYST, mae’r cwmni wedi bod yn dosbarthu caneuon Cymraeg ar wahanol blatfformau digidol, ac mae’r caneuon Cymraeg hynny wedi eu ffrydio 25 miliwn o weithiau.

Rôl Lea yn y cwmni

Swyddog Cynnwys a Marchnata cwmni PYST yw Lea – swydd sy’n cynnig tipyn o amrywiaeth:

“Mae ‘na lot yn dod o dan y swydd yma, social media, anfon PRs ar gyfer cerddoriaeth newydd PYST, uwch lwytho cynnwys newydd yn ddyddiol a lot o betha’ random hefyd!” meddai.

“Dwi’n cael gwneud hyn fel rhan o dîm o bobl anhygoel. Ma’ gweithio i PYST yn wych – ma’ llwyddiant y cwmni yn adlewyrchiad uniongyrchol o ba mor greadigol ac anhygoel yw ­­labeli ac artistiaid Cymru, yn enwedig mewn amseroedd ansicr ac anodd fel hyn.”

Mae hi’n amlwg bod Lea wrth ei bodd yn ei swydd, sydd yn rhoi’r esgus perffaith iddi blethu ei gwaith gyda’i diddordeb mewn cerddoriaeth:

“Fel rhywun sydd hefo diddordeb brwd mewn cerddoriaeth o Gymru a labeli annibynnol, mae clywed miwsig newydd bob dydd yn rili difyr ac yn lot o hwyl!”

Dafydd Êl yn ffan o’r cwmni

Mewn sgwrs gyda golwg360, dywed y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ffan o waith y cwmni sy’n rhoi pop Cymraeg ar blatfformau megis Spotify, Apple, Amazon a Deezer.

“Mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chreu yng Nghymru”, meddai Dafydd Elis-Thomas, AoS Dwyfor Meirionydd.

Yn ôl y gweinidog, mae llwyddiant PYST yn “golygu bod y gerddoriaeth yn fwy hygyrch nag erioed.”

“Mae diddordeb a brwdfrydedd cynyddol mewn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ac rwyf wrth fy modd ein bod yn medru cydweithio â PYST i annog a meithrin y diddordeb hwnnw.”

Yn ogystal â cherddoriaeth newydd, cydweithiodd PYST â nifer o labeli i sicrhau bod cerddoriaeth o’r gorffennol yn ymddangos ar y platfformau digidol, fel ei fod ar gael i genedlaethau’r dyfodol.

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywed Lea:

“Mae’r Arglwydd Elis-Thomas wedi bod yn andros o gefnogol o PYST – mae clywed ei gefnogaeth o’n cwmni ac yn enwedig ei drafodaeth o hygyrchedd cerddoriaeth sydd yn cael ei greu yng Nghymru yn galonogol iawn.”