Un dydd ar y tro: Cyfres fideo i gynnal llesiant ac iechyd meddwl plant 

Mae Leisa Mererid yn cyflwyno ioga ac meddwlgarwch… Un dydd ar y tro!

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r athrawes ioga ac meddwlgarwch, Leisa Mererid wedi creu cyfres o fideos hwyliog i blant, gyda’r nod o helpu i gynnal eu lles a’u hiechyd meddwl.

Bwriad y sesiynau, yw paratoi disgyblion a’u hathrawon am y diwrnod, gan gyflwyno’r maes i’r cwricwlwm … a chael hwyl ar yr un pryd!

Daw’r gyfres, sydd wedi ei chydlynu a’i noddi gan Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd, mewn cyfnod ble mae mwy o bwyslais nag erioed ar ofalu am iechyd meddwl.

“Syml a hwyliog”

Wrth egluro nod ac amcanion y gyfres, dywedodd Leisa Mererid:

“Cyfres o ymarferiadau byr ac effeithiol fydd cynnwys y fideos, i gefnogi iechyd a lles disgyblion, athrawon a cymorthyddion.

“Roeddwn i eisiau trio meddwl am ddulliau syml a hwyliog iawn i gyflwyno ioga a meddwlgarwch i’r cwricwlwm ac i’r ysgolion … ac efallai i bobl sydd heb wneud hynny o’r blaen.

Eglurodd mai’r gyfrinach gydag ioga yw bod yr anadl yn dod yn rhan o’r symudiad, a drwy uno, mae’n cael effaith gadarnhaol ar y system nerfol a thawelu’r corff.

“Mae hi’n gyfnod ansicr ac ansefydlog iawn,” meddai, “ac mae ioga yn helpu i gadw cydbwysedd.

“Dydi o ddim yn mynd i newid ein sefyllfa ni … ond mae o’n mynd i helpu ni i ddelio hefo’r sefyllfa.

“Mae ioga yn ganrifoedd oed ac yn fwy poblogaidd heddiw, na fuodd o erioed ac mae hynny yn brawf ac yn dyst bod o’n gweithio a bod ‘na rhywbeth arbennig iawn amdano fo.”

Teyrnged i’w Mam

“Nes i ddechrau meddwl am y gyfres yn ystod y cyfnod clo cyntaf a does ‘na ddim llawer ers i mi golli Mam.

“Roedd Mam yn brifathrawes ac yn gantores,” meddai, “a hi ysgrifennodd neu gyfieithodd geiriau’r gan ‘Un dydd ar y tro’.

“Yn ystod y clo … hefo galar …  un cam ar y tro oeddwn i’n gorfod cymryd. Erbyn hyn, dwi’n teimlo dipyn bach yn well a dwi’n gallu cymryd un dydd ar y tro.

“A dyna ydi’r ymarferion – un cam bach bob dydd.”

Bydd y fideos yn  cael eu darlledu yn ddyddiol, ddydd Llun tan ddydd Gwener yn ystod y tymor rhwng Ionawr 4 a Chwefror 26, 2021 ar sianel ddigidol AM Cymru.

“Awyddus i ychwanegu at yr amrediad o adnoddau sydd ar gael”

Yn ôl Ifan Jones, Swyddog Datblygu Iaith gyda Hunaniaith:

“Mae gan Leisa Mererid sgiliau a phrofiad arbennig yn y maes yma ac roeddem yn awyddus i ychwanegu at yr amrediad o adnoddau sydd ar gael yn y maes yma drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mi fydd patrwm penodol i’r rhaglen sy’n dilyn trefn dyddiau’r wythnos:

  • Dydd Llun Llesol,
  • Dydd Mawrth Mynegi,
  • Dydd Mercher Meddwlgarwch,
  • Dydd Iau Ioga,
  • Dydd Gwener Gorffwys.

Bydd yr ymarferion byr yn paratoi’r plant ar gyfer y dydd sydd o’n blaenau ac mi fydd  posib ail-wneud yr ymarferion sawl gwaith yn ystod y dydd fel bod angen i helpu angori’r dysgu.

“Edrych ar ôl iechyd meddwl yn hanfodol”

Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Rydw i’n falch iawn o weld y ddarpariaeth yma yn cael ei gynnig i staff a disgyblion ysgolion Gwynedd.

“Mae edrych ar ôl iechyd meddwl yn hanfodol er mwyn sicrhau’r dechrau gorau i blant Gwynedd yn ogystal â chefnogi ein hathrawon a chymorthyddion, ac mae’n wych gallu cynnig y cymorth yma drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae gwers lyfr hefyd wedi ei baratoi gan Leisa Mererid, er mwyn cefnogi athrawon a chymorthyddion dysgu i arwain eu dosbarthiadau drwy’r ymarferion.

Mae’r wers lyfr wedi eu creu gyda nawdd Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd.

Gallwch gysylltu â Hunaniaith ar Hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru os hoffech gael copi.