“Mae o fel dweud wrth McDonalds gewch chi agor ond gewch chi ddim gwerthu burgers na chips!”

Ymateb perchennog Y Siôr ac Y Llangollen i’r cyfyngiadau newydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Dewi Siôn, perchennog dau dafarn ym Methesda wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gau tafarndai, bariau, bwytai a chaffis am chwech yr hwyr a’u hatal rhag gwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre.

Daw hynny wedi i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi cyfyngiadau newydd fydd yn dod i rym o 6yh ddydd Gwener, Rhagfyr 4, i leihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig.

Dywedodd Dewi Siôn gall hynny olygu bod mwy o bobl am ymgynnull yn anghyfreithlon yn eu cartrefi a chreu sefyllfa fwy peryg fyth.

“Mae o’n hollol stupid”

“Mae o’n hollol stupid – does ‘na jyst ddim sens yn y peth o gwbl,” meddai Dewi Siôn.

“Mae o fel dweud wrth McDonalds gewch chi agor ond gewch chi ddim gwerthu burgers na chips!”

Dywedodd bod y rhan fwyaf o bobl sy’n ymweld â thafarndai yn parchu’r rheolau. A does dim croeso i’r rhai sydd ddim, meddai.

“Dyna ydi’r holl bwrpas mynd i dafarn,” meddai “ti’n cael peint ac mae rhywun yna i wneud yn siŵr fod pawb yn ymddwyn yn gyfrifol – dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd mewn tai.”

Rhybuddiodd y byddai mwy o bobl yn ymgynnull yn anghyfreithlon yn eu cartrefi.

“Os dydi’r Llywodraeth ddim yn meddwl bod hynny’n mynd i ddigwydd, maen nhw’n byw yng ngwlad cw-cw… a does ganddyn nhw ddim syniad am be maen nhw’n siarad.”

Caniatâd i werthu alcohol “i fynd”

Yn ddiweddarach, daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd modd i dafarndai werthu cwrw i fynd, tecawê, os oes gan y tafarnwr drwydded berthnasol.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Dewi Siôn:

“Ar ddiwedd y dydd, pan wyt ti’n talu am beint mewn pub… ddim dim ond am yr hylif wyt ti’n talu… ti’n talu am yr hawl i eistedd yna mewn gwres i yfed – dyna ti’n talu am.

“Maen nhw’n gwneud hyn i fyny fel maen nhw’n mynd yn eu blaenau,” meddai, “os ydyn nhw’n troi rownd a deud hyn rŵan, yn amlwg dydyn nhw ddim wedi treulio’r penwythnos yn meddwl hyn allan yn glir.

“Felly pam ddiawl nath y nhw ddim gwneud cyhoeddiad dydd Gwener?”

Bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.