Dosbarthu ‘pecynnau prysur’ i gadw’r plantos yn ddiddan dros wyliau’r hanner tymor

Gweithgareddau creadigol i blant a theuluoedd ardal Bethesda

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Cyngor Gwynedd

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau, Cyngor Gwynedd wedi paratoi dros 450 o ‘Becynnau Prysur’ ar gyfer plant a theuluoedd ardal Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Deiniolen.

Mae’r pecynnau celf a chrefft yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys tasgau celf, posau a gemau.

Mi fydd y pecynnau’n cael eu dosbarthu i’w cartrefi newydd ym Methesda gyda chymorth swyddogion Partneriaeth Ogwen, yn barod ar gyfer y gwyliau hanner tymor.

“Cefnogi creadigrwydd gartref”

“Nod y cynllun hwn yw cefnogi creadigrwydd gartref yn ystod cyfnod heriol pandemig Covid-19 ble nad oes modd i gymunedau ddod ynghyd i weithgareddau celfyddydol” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned.

Eglurai bod y cyfyngiadau presennol yn effeithio ar bawb a’i bod hi’n hollbwysig i barhau i gynnal gweithgareddau creadigol “er llesiant ein cymunedau”.

#PecynnauPrysur

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb sy’n derbyn pecyn i rannu eu gwaith yn eang ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #PecynnauPrysur.

Ewch amdani!