Disgyblion Penybryn yn dathlu ‘Ein Bro’

Ffilm newydd gan ddisgyblion blwyddyn 6 yn trafod yr ardal ddoe a heddiw.

Carwyn
gan Carwyn

Ar ddiwedd y tymor ysgol, mae disgyblion Penybryn, Bethesda wedi cyhoeddi fideo arbennig sy’n dathlu ‘Ein Bro’.

Mae’n benllanw llawer o waith dros y misoedd diwethaf ac yn ddathliad o fywyd yn yr ardal ddoe a heddiw drwy lygaid pobl ifanc lleol. Mae’r gwaith wedi tarddu o awydd disgyblion blwyddyn 6 i ddysgu mwy am eu hardal.

Cychwynnodd y cyfan nôl ym mis Medi, pan roedd y dosbarth yn cynllunio thema newydd am y tymor. Mynegodd y plant eu bod am wybod mwy am eu hardal leol, am yr hanes a’i diwylliant, ond hefyd nad oeddent yn llwyr ymwybodol beth oedd gan Bethesda heddiw i’w gynnig iddynt.

Dywedodd y plant eu barn ddigon clir, nad oeddent am ddysgu drwy daflenni gwaith llafurus, ond yn hytrach mewn ffordd hwyliog, newydd, nad oeddent erioed wedi ei brofi o’r blaen. Felly cytunwyd drwy bleidlais ddosbarth eu bod am greu FFILM.

Eu cam cyntaf oedd gwahodd aelodau o’r gymdeithas draw i weld pwy fuasai’n fodlon helpu, roedd yr ymateb yn wefreiddiol. Gyda Linda Brown wrth y llyw, roedd trigolion Bethesda yn heidio i helpu gan gynnig cyfraniadau ariannol yn ogystal a’u harbenigeddau fel person camera/ sain ac ati. Roedd cyfraniad Linda a thrigolion hael Dyffryn Ogwen yn allweddol i lwyddiant y gwaith yn ôl blwyddyn 6.

Roedd gan y dosbarth waith caled o’u blaenau ac roedd yn bwysig cynnwys pawb yn y broses. Cafwyd brofiadau bythgofiadwy, a dywedodd ambell blentyn fod hyn wedi gwneud iddynt feddwl am pa drywydd roeddent yn dymuno ei ddilyn fel gyrfa, yn dilyn eu profiadau.

Bu’r plant wrthi o ddydd i ddydd am wythnosau yn sgriptio golygfeydd, yn ymarfer, yn gwneud newidiadau ac yn mireinio eu crefft. Cawsant brofi bob math o sgiliau o animeiddio, i gyfansoddi, i waith celf.

Un o’r arbenigwyr fu’n cydlynu’r holl beth oedd Mr Robin Williams ac roedd yr ysgol yn ddiolchgar am ei waith.

Trosglwyddodd ei sgiliau technoleg i’r plant a’u rhoi ar ben ffordd er mwyn iddynt allu dod yn ddysgwyr annibynnol wrth fynd ati i animeiddio, ffilmio, defnyddio sgrin werdd ac ati. Robin a’i fab Rhodri, oedd yn gyfrifol am olygu’r ffilm, camp a hanner yn wir!

“Rydan ni mor falch o’r gwaith arbennig yma. Mae ffilm ‘Ein Bro’ yn dangos ein disgyblion yn llwyddo i ymholi, archwilio, ymchwilio ac yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol,” meddai’r Pennaeth, Gethin Thomas.

Pwy a wyr, efallai bydd cyfle am bremier yn yr hydref. Diolch i’r plant a phawb fuodd yn rhan o’r gwaith, mae’n tanlinellu popeth sydd gennym i fod yn falch ohono yn Nyffryn Ogwen.

Mae’r fideo i weld ar dudalen Facebook yr ysgol

https://www.facebook.com/ysgolpenybryn.acabercaseg.9