Dathlu’r Daucanmlwyddiant!

Nawdd o £10,000 yn cael ei ddosbarthu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn dathlu treftadaeth a diwylliant Bethesda.

gan Caleb Rhys Jones
dsc_6613.900x0

Llun – Nick Pipe

Yn ôl ym mis Mawrth 2020, tynnodd Dr John Llywelyn Williams a Lowri Williams ein sylw at ddathliad go arbennig yma ym Methesda – daucanmlwyddiant ein pentref.

Roedd hi’n syndod i gynifer ohonom fod Bethesda yn dathlu’r pen-blwydd arbennig yma eleni. Er ein bod wedi mawr obeithio gallu dathlu’r achlysur fel cymuned, bu’n rhaid gohirio unrhyw obeithion o gyflawni hynny oherwydd amgylchiadau’r coronafeirws.

Mae yna bwyllgor dathlu o wahanol bartneriaid eisoes wedi cael ei ffurfio ar gyfer dathlu’r daucanmlwyddiant. Bu un o bobl ifanc yr ardal, Caleb Rhys Jones o’r Gerlan, yn gweithio efo Partneriaeth Ogwen am gyfnod o 8 wythnos dros yr haf.

Roedd Caleb yn gyfrifol am gyd-weithio efo rhai o sefydliadau’r Dyffryn er mwyn llunio rhaglen ddathlu ar gyfer nodi achlysur y daucanmlwyddiant y flwyddyn nesaf. Oherwydd natur yr amgylchiadau presennol, mae hi dal yn anodd iawn rhagdybio pa bryd fydd y gymuned yn cael dod at ei gilydd i ddathlu’r pen-blwydd.

Yn y cyfamser, mae Partneriaeth Ogwen wedi llwyddo i sicrhau nawdd o £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn dechrau ar y gwaith o hyrwyddo daucanmlwyddiant Bethesda. Bydd y nawdd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ffilm newydd gyda’r bwriad o ddehongli hanes a threftadaeth Bethesda trwy lygaid y gymuned.

Dywedodd Caleb: “‘Da ni’n credu ei bod hi’n eithriadol o bwysig bod ein cymuned yn cael y cyfle i arwain y prosiect. Ein gobaith ydi y bydd hyn yn ein galluogi i gasglu ystod eang o luniau, cyfweliadau, deunydd ysgrifenedig, crefftau ac ati.

“Er mwyn mynd ati i gasglu’r deunydd, bydd cyfres o sesiynau galw heibio yn cael eu trefnu ym Methesda (gan ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.) Bydd cyfle i’r gymuned gael arddangos a rhannu eu heiddo personol yn y sesiynau hyn.

“Byddwn yn llunio cofnod o fanylion yr eiddo er mwyn ffurfio stôr mawr o wybodaeth ar gyfer mynd ati i ddatblygu’r ffilm. ‘Da ni’n bwriadu arddangos eitemau yn ffenestri siopau Stryd Fawr Bethesda dros y misoedd nesaf hefyd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld be’ yn union sydd dan glo yng nghypyrddau pobol y Dyffryn!”

Ychwanegodd Meleri Davies, Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen: “Mi fydd hwn yn brosiect eithriadol o gyffrous i bawb yma yn Nyffryn Ogwen.

“Mae’r penderfyniad i ddatblygu ffilm a chynnal y gwaith ymchwil gymunedol yn seiliedig ar ddiogelu a chofnodi elfennau o dreftadaeth a fyddai, o bosib, byth yn cael eu cofnodi fel arall. Er mai prif nod y ffilm ydi cynyddu dealltwriaeth ein cymuned o dreftadaeth Bethesda, mi yda ni’n hyderus y bydd y gwaith yn cael ei rannu a’i amlygu’n ehangach hefyd.”

Bydd mwy o fanylion ynglŷn â’r sesiynau galw heibio a chyfleoedd i wirfoddoli yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Partneriaeth Ogwen (Facebook ‘Partneriaeth Ogwen’; www.partneriaethogwen.cymru; www.ogwen.cymru) yn fuan.