Cynllun ‘Byw a Bod’

Partneriaeth Ogwen yn croesawu pedwar wyneb newydd.

gan Tom Simone

Gyda chefnogaeth Arloesi Gwynedd Wledig, bydd Partneriaeth Ogwen yn cyflogi 4 Swyddog Byw a Bod am gyfnod o 8 wythnos dros yr haf.

Cynllun i bobl ifanc 18-25 i gael profiad gwaith efo mentrau cymdeithasol  ydy cynllun Byw a Bod.

O ran dyletswyddau, y cynllun ydy –

 

Elin Cain i wneud gwaith ymgynghori cymunedol efo Cefnfaes.  

Caleb Rhys i weithio efo Grŵp Cymunedol i drefnu Dathlu 200 Mlwyddiant Bethesda

Lisa Tomos i weithio efo fi i wneud ymchwil cymunedol Dyffryn Ogwen

Cadi Roberts i weithio efo ni i drefnu digwyddiadau awyr agored a digwyddiadau llenyddol.