Cynllun diweddaraf Ynni Ogwen – Heuldro Ogwen

Dyffryn Ogwen yn ddyffryn gwyrdd

gan Tom Simone

Ar ôl misoedd lawer o gydweithio, mae gosodiad cyntaf ein cynllun Heuldro Ogwen wedi ei osod ar dô swyddfa Ogwen a Chanolfan Dyffryn Gwyrdd ar y Stryd Fawr, Bethesda!

Mae’r sgaffaldwyr bellach wrthi’n paratoi at y gosodiad nesaf ar do Clwb Rygbi Pesda cyn symud ymlaen i’r Clwb Criced, Neuadd Ogwen, Caban Gerlan a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen.

Dyma benllanw lot o waith caled a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu, yn arbennig Cynllun ECCO, Cyd Ynni, yr adeiladau cymunedol, Cwmni Solar Gareth Griffiths a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Ar ddiwrnod cyntaf heulog, roedd y paneli wedi cynhyrchu 1.7kwh – digon i redeg ein cyfrifiaduron, y goleuadau a’r tegell! Ymlaen i Ddyffryn Gwyrdd heb allyriadau!

Yn y llun mae Dafydd Meurig – Cadeirydd Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies – Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen a Chyfarwyddwr Ynni Ogwen a Gareth Griffiths y gosodwr o flaen y panel rheoli solar yn swyddfa Partneriaeth Ogwen.

☀️??