Cyfle i roi cynnig ar griced

Cyfres o sesiynau blasu yn ystod mis Awst.

Carwyn
gan Carwyn

Mae cyfres o sesiynau blasu yn cael eu cynnal gan Glwb Criced Bethesda yn ystod mis Awst.

Does dim ffi am y sesiynau ond bydd angen archebu lle gan bydd y nifer yn y sesiynau yn gyfyngedig.

Dydd Mawrth, 11, 18 & 25 Awst (6-7yh) – Criced ieuenctid i oedrannau ysgolion cynradd


Dydd Mawrth, 11, 18 & 25 Awst (7-8yh) – Criced Merched

 



Dydd Iau, 13, 20 & 27 Awst (5-6yh) – Criced ieuenctid i oedrannau ysgolion uwchradd

Nid oes angen profiad blaenorol, bydd croeso i unrhyw un!

Gellir archebu lle ar y sesiynau drwy e-bostio cricedbethesdacricket@outlook.com neu anfon neges drwy Facebook i’r Clwb Criced: https://m.facebook.com/ClwbCricedBethesda/