Cwrw’r Welsh Whisperer – Gwd Thing Celtic Lager

Dyma fwy o wybodaeth ynglyn a’r diod newydd diddorol!

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
label-Front
label-Front

Ni’n bragu nawr!

Mewn cyfnod lle mae adloniant byw yn dioddef yn ofnadwy, mae llawer o sôn am arallgyfeirio ac er nad ydy’r Welsh Whisperer yn rhoi’r gorau i ddiddanu o bell ffordd, mae wedi bod yn brysur yn gweithio ar brosiect arall yn ddiweddar.

Mae’n cynnig cynnyrch tra gwahanol y Nadolig yma, nid CD newydd ond dau gwrw newydd sbon sydd wedi eu bragu yma yng Nghymru.

Cydweithio gyda bragdy ‘Cwrw Ogwen’ yw’r fenter ddiweddaraf. Bydd poteli ‘Cwrw Cap Stabal’ (I.P.A 4.2%) ar werth o’r bragdy ac mewn nifer o siopau a thafarndai ar draws gogledd Cymru a bydf manylion ar y wefan yn fuan http://www.cwrwogwen.cymru

‘Mae’n braf iawn cydweithio gyda Chwrw Ogwen, fel nifer o fusnesau mae’r pandemig wedi effeithio arnynt gydag ansicrwydd y tafarndai, rydym yn hapus iawn felly i gyhoeddi bydd y cwrw yma ar werth erbyn diwedd mis Tachwedd a bydd angen i bobl prynu yn sydyn er mwyn peidio cael eu siomi cyn y Nadolig!’

‘Da yw gweld Cwrw Ogwen yn mentro a chydweithio gydag eraill, maen nhw hefyd yn rhyddhau cwrw o’r enw ‘Wales Away I.P.A’ gyda ‘Spirit of 58’ a fydd yn siŵr o blesio cefnogwyr pêl droed Cymru ar hyd a lled y wlad.’

Gan nad yw’r canwr poblogaidd yn gwneud pethau ar chwarae bach, mae hefyd yn cydweithio gyda ‘Bragdy Bluestone’ yn Nhrefdraeth, Sir Benfro sydd wedi bragu’r ‘Gwd Thing Celtic Lager’ (4.3%). Mae’r poteli yma ar gael i’w rhag archebu ar wefan bluestonebrewing.co.uk a bydd y poteli ar werth mewn nifer o siopau, tafarndai a bwytai ar draws y wlad.