Colli ‘Alun Bronnydd’ 

‘Un o’r rhai anwylaf’ 

gan Annes Glynn

Cafodd bro gyfan ei hysgwyd o glywed am farw annhymig Alun Owen yn ddiweddar, ac yntau wrth ei waith. A theimlwyd tristwch neilltuol ym mhentref Rhiwlas lle magwyd Alun, yn un o bump o blant i Cathy a’r diweddar Iolo.

 

Cartref y teulu yn ystod y blynyddoedd cynnar oedd Bronnydd, tŷ eang wrth droed Moel Rhiwen, ac i ni yn Rhiwlas ‘Alun Bronnydd’ fu erioed er mai fel ‘Al Bonc’ yr oedd yn cael ei adnabod drwy’r Dyffryn a thu hwnt. ‘Bonc’ oedd enw cartref ei dad yn Y Felinheli.

Pethau digon tila yw geiriau ar adeg fel hyn, ond mi es i ati i lunio englyn er cof am Alun, ‘un o’r anwyla’ fu erioed’ yn ôl un o’i gyfoedion o’r pentref, y ddarlledwraig, Elliw Mai.

Er cof annwyl am ‘Alun Bronnydd’

Bu’n hwyliog ers yn hogyn – haul ei wên

Yn oleuni sydyn,

Ond daeth braw y glaw’n y glyn,

Dagrau’n lle hwyliau Alun.

Annes Glynn