Cofio’r Dyddiau Difyr: Neville Hughes – Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen

Dafydd Roberts
gan Dafydd Roberts

Ar nos Lun 10 Chwefror 2020, bydd Neville Hughes yn “Cofio’r Dyddiau Difyr” gerbron Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen. Yng ngeiriau Neville, fe fydd o’n cyflwyno ychydig o hanes mewn sgwrs a chan, o gyfnod Hogiau Llandegai.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal, fel arfer, yn Festri Capel Jerusalem, gan gychwyn am 7pm. Mynediad am ddim i aelodau’r Gymdeithas, £1.50 i bawb arall. Dewch yn llu i fwynhau noson ddifyr, a siaradwr penigamp!

(Bydd y ddarlith oedd i’w chyflwyno yn wreiddiol ar gyfer y noson yma bellach i’w chlywed yn ystod tymor 2020/2021)