Codi arian er cof am Karen bach

Mae Iwan Rowlands a’i bartner wedi casglu £1,800 i gofio am ei chwaer

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Iwan Rowlands a Leone Sherlock wedi codi bron i ddwy fil o bunnoedd er cof am Karen, chwaer Iwan.

Bu farw Karen, oedd yn cael ei hadnabod ymhlith ei theulu a’i ffrindiau fel ‘Karen bach’, yn 19 mlwydd oed.

Mae’r pâr wedi casglu oddeutu £1,800 ar gyfer GISDA, sy’n darparu cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ar draws Gwynedd ac i Hostel St Mary’s ym Mangor.

“Aelod parhaol, cariadus o’r teulu”

“I nodi 5 mlynedd ers marwolaeth ei chwaer Karen, penderfynodd fi ac Iwan i wneud Skydive i godi arian at elusennau oedd yn agos iawn i’w chalon,” meddai Leone.

“Daeth Karen i fyw hefo teulu Iwan yn bedair oed fel plentyn mewn gofal a cyn bo hir roedd hi’n aelod parhaol, cariadus o’r teulu.

“Yn ei arddegau datblygodd Karen broblemau iechyd meddwl, ac yn anffodus arweiniodd hyn i Karen gymryd ei bywyd ei hun yn 19 mlwydd oed.”

Karen bach

“Cymorth anhygoel”

Penderfynnodd Iwan a Leone neidio 10,000 troedfeydd i godi’r arian.

“Cafodd Karen gymorth anhygoel gan GISDA a chefnogaeth eraill lle’r oedd angen,” meddai Leone.

“Hefyd, doedd o ddim yn anghyffredin i weld Karen yn sgwrsio hefo aelodau o’r digartrefedd ym Mangor.

“Oherwydd hynny – penderfynon ni gasglu arian i’r elusennau anhygoel yma.”

Y skydive

Y cyfraniad yn gwneud “gwahaniaeth mawr i’r bobl ifanc”

Mewn neges ar eu cyfrif Facebook, dywedodd GISDA:

“Pleser oedd cael croesawu Leone Sherlock i swyddfa GISDA wythnos diwethaf a rhoddwyd siec o £900 i helpu cefnogi pobl ifanc GISDA.
“Mi roedd Karen wedi derbyn cefnogaeth gan GISDA yn y gorffennol ac yr ydym ni fel cwmni yn hynod o ddiolchgar am y cyfraniad yma a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r bobl ifanc sydd yn derbyn ein gwasanaeth.”
Cyflwyno’r arian i GISDA

“Mae’r ymateb wedi bod yn ardderchog,” meddai Leone, “ac rydym mor ddiolchgar.

“Fysa ni a theulu Karen yn hoffi diolch i bawb sy’ ’di rhoi i’r elusennau – rydym yn gwerthfawrogi eu haelioni yn fawr.