Clwb Drama Crawia – cyfle i actorion ifanc

Carwyn
gan Carwyn

Dros y blynyddoedd diweddar mae Clwb Drama Crawia wedi cynnig cyfle cyffrous i bobl ifanc roi cynnig ar berfformio.

Unwaith eto, mae’r clwb yn edrych am actorion ifanc brwd i ymuno er mwyn magu profiad a datblygu eu sgiliau. Yr actores leol Angharad Llwyd sy’n actio yn Rownd a Rownd fydd yn arwain.

Eleni, mae ffordd newydd o dalu drwy arwyddo fyny i ddebyd uniongyrchol. Mae angen arwyddo fyny i’r debyg uniongyrchol i gadw lle yn y clwb.

 

Mae’r clwb ymlaen ar nosweithiau Iau yn
ystod wythnosau ysgol gyda chost o £50 pob chwarter.

Bydd angen arwyddo fyny i gadw lle erbyn 24 Chwefror gyda’r sesiwn gynta ar 27 Chwefror.

Bydd y gwersi yn rhedeg am awr rhwng 5pm a 8pm, gydag union fanylion amser gwersi i’w bennu.

Dyma’r linc i sefydlu debyd uniongyrchol https://pay.gocardless.com/AL0002W59RXSJ3