Ydach chi erioed wedi ystyried beth mae’n gymryd i gynnal clwb chwaraeon cymunedol?
Os ydych chi eisiau gwneud cyfraniad yn lleol, mae cyfle i helpu gyda Chlwb Criced a Bowlio Bethesda!
Mae nifer fechan o wirfoddolwyr yn cynnal 2 dîm criced oedolion i ddynion, tîm merched, sesiynau wythnosol, ynghyd â gemau ar gyfer tua 40 o blant. Mae pedwar tîm bowlio yn y clwb hefyd.
Ond, mae cael y llain, ystafelloedd newid ac ati yn gallu cymryd amser i’r criw bach sy’n helpu yn y clwb!
Tybed felly oes unrhyw un a allai ymrwymo i ychydig o oriau’r wythnos i dorri gwellt a gwaith cynnal a chadw cyffredinol? Dewch i fod yn rhan o rywbeth sy’n gwneud Pesda yn arbennig.
Mae hi i fyny i chi beth fyddech chi am ei wneud i helpu a faint o amser sydd gennych i’w gynnigcael. Bosib y gallech helpu gyda cynnal a chadw’r cae, cynnal a chadw’r clwb, cyfryngau cymdeithasol, helpu hyfforddi’r ieuenctid.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn eang a byddwn yn dod o hyd i rywbeth i gyd-fynd â’ch dewis. Be bynnag fyddwch chi’n gwirfoddoli ar ei gyfer ni fyddwch ar eich pen eich hun, bydd ein gwirfoddolwyr presennol yno i’ch helpu.
Am fwy o fanylion, cysylltwch efo’r clwb drwy e-bostio cricedbethesdacricket@outlook.com anfon neges ar Facebook i ‘Clwb Criced a Bowlio Bethesda Cricket & Bowling Club’ neu ffonio 01248 600833.?