Cerys ar ganslo arholiadau TGAU

“Maen nhw angen siarad mwy hefo ni am y peth – dyfodol ni ydi o – ddim nhw.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cerys Elen, disgybl blwyddyn 11 Ysgol Dyffryn Ogwen, wedi bod yn trafod y syniad o ganslo arholiadau TGAU’r haf nesa’.

Mewn sgwrs gyda Ogwen360, dywedodd Cerys Elen bod hi’n gyfnod ansicr iddi hi a’i ffrindiau a bod angen i’r Llywodraeth fod yn holi barn y bobl ifanc.

Daw’r drafodaeth ar ôl i gorff Cymwysterau Cymru argymell peidio cael arholiadau TGAU’r flwyddyn nesaf – ond asesu disgyblion ar waith cwrs ac asesiadau o fewn yr ysgol.

“Fyswn i bach yn gutted”

Dywedodd Cerys Elen y byddai’n siomedig o beidio cael y cyfle i eistedd ei harholiadau gan ei bod wedi defnyddio’r cyfnod clo i roi ei phen i lawr a chanolbwyntio ar ei gwaith ysgol.

“Fyswn i bach yn gutted bod fi heb gael y cyfle i ddangos be dwi’n gallu gwneud,” meddai.

“Ma’ lot o bobl yn credu bod nhw am allu neud yn well mewn arholiad na fysa nhw drwy gydol y flwyddyn.

Er hynny, mae hi wedi croesawu’r profion ffug sy’n cael eu cynnal yn gyson yn ysgol, sy’n rhoi math o rwyd diogelwch i ddisgyblion, mewn cyfnod mor ansicr.

“Dwi’n falch bod yr ysgol yn cynnal gymaint o ffug arholiadau,” meddai.

“Os ydi’r arholiadau’n cael eu canslo – mi fydda ni’n iawn gan fod ni hefo’r proof yma i gyd, os dydyn nhw ddim, wel o’ leiaf mi yda ni wedi cael digon o bractis!”

“Dyfodol ni ydi o – ddim nhw”

Dywedodd Cerys Elen bod angen i’r Llywodraeth fod yn holi barn y bobl ifanc:

“Maen nhw angen siarad hefo pawb ar draws y wlad, maen nhw angen cael holiadur neu sicrhau bod y cynghorau yn siarad hefo’r plant ac wedyn yn siarad hefo’r Llywodraeth.”

“Maen nhw angen siarad mwy hefo ni am y peth – dyfodol ni ydi o – ddim nhw.”

Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wneud cyhoeddiad swyddogol ynglŷn â’r mater ar Dachwedd 10.

Mae modd darllen mwy o ymatebion gan Brif Athrawon, undebau a disgyblion eraill yma.