Cerys a’r Covid yn Lerpwl

“Er bod fi’n teimlo fatha bod fi yn y Brifysgol, mae o yn anodd coelio hynny ar y funud.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cerys Thomas o Fethesda wedi bod yn byw ac yn astudio yn ninas Lerpwl ers bron i fis bellach.

Mewn sgwrs gydag Ogwen360, mae hi wedi bod yn ymateb i gyfyngiadau llym y ddinas ac yn trafod ei phrofiadau personol o brofi’n bositif i’r feirws.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno rheol newydd, sydd i fod i ddod i rym ddydd Gwener (Hydref 16). Mi fydd hynny’n atal pobl o ardaloedd sydd â lefelau uchel o Covid, gan gynnwys Lerpwl, rhag teithio i Gymru.

Bydd hynny’n gwahardd Cerys rhag dychwelyd yn ôl i’r Dyffryn am gyfnod.

O brofi’n bositif i’r feirws a cheisio addasu i fywyd prifysgol ar ei newydd wedd, dywed bod y cyfyngiadau newydd yn gwneud sefyllfa anodd, hyd yn oed anoddach.

“Ddim yn cael y typical ‘uni life'”

“Dwi ‘di setlo lawr yn dda yma a dwi’n dod ymlaen yn dda efo pobl dwi’n byw hefo, jyst anodd gan fod darlithoedd i gyd ar-lein ti ond yn cal y siawns i neud ffrindia’ hefo pobl ti’n byw efo.” Meddai Cerys.

“Er bod fi’n teimlo fatha bod fi yn y Brifysgol, mae o yn anodd coelio hynny ar y funud gan bo’ ni ddim yn cael yr typical ‘uni life’” eglurai, dyda ni ddim yn cael mynd i’r adeilad i gael darlithoedd a rŵan ‘dani ddim yn cael yr ‘night life’ chwaith.”

Hunan-ynysu

I ychwanegu at hynny, mae Cerys wedi treulio’r deg diwrnod diwethaf yn hunan-ynysu, wedi iddi brofi yn bositif i’r feirws.

Mae hynny’n golygu nad oes modd iddi ddychwelyd adref cyn y rheolau newydd ddod i rym ddydd Gwener.

“Ar ôl amser hir o hunan ynysu mewn fflat bach, heb ddim awyr iach, oni wedi meddwl dod adra am ‘chydig o ddiwrnodau i gael break bach,” Meddai.

“Mae hyn yn amhosib i neud wan ac yn eithaf frustrating gan bo’ fi ddim yn gwybod pryd gai ddod adra cyn ‘dolig i weld teulu a ffrindiau.”

“Ma’ hynny reit anodd i gymryd.”