Cerddoriaeth dan Glo – Beth ddigwyddodd?

Edrychiad ar sefyllfa’r diwydiant gerddorol dros y 6 mis dwythaf a sgwrs gyda Elis Derby

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

I rywun sy’n caru gigiau a cherddoriaeth, mae cerdded i lawr y stryd fawr ym Methesda yn brofiad gwahanol iawn ar hyn o bryd.

Mae’r ddelwedd o weld sawl poster Neuadd Ogwen wedi ei addurno ar hyd y stryd, yn edrych ymlaen at Maes B yn yr haf, a gallu ymarfer mewn person gyda’r band yn un o’r gorffennol. 

Mae hi di bod yn amser caled, ond fel gweithwyr creadigol, mi ddaethom ni drwyddi, a drwy edrych yn ôl; mae llawer o bethau gofiadwy wedi dod o’r cyfnod hon.

Yn gyntaf, rhaid cofio am yr holl ddigwyddiadau cafodd eu canslo. Yn bersonol iawn i mi, cyrhaeddais y rownd derfynol o Frwydr y Bandiau 2019/2020, ac roedd yr realiti o gynnal set yn Maes B: un o’r wyliau mwyaf adnabyddus yn y sin gerddoriaeth Gymraeg yn agosau.

Ar ol peidio gallu mynd y flwyddyn cynt, ac yn rhy ifanc i fynd y blwyddyn cyn hynny, roedd hi’n siom dros ben fod i’n colli’r profiad, ac roedd fy ffrind yn y band Llechan Fudur, Osian Cai Efans yn teimlo’r siom yma hefyd, o beidio allu cystadlu am set yn Maes B ar Lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Yn fwy na hyn, mae sawl gig roeddwn yn edrych ymlaen at wedi’i ganslo hefyd, gig Cosh ym Mhontio gyda Lewys, Gwilym ac Elis Derby ac y degau o gigiau munud olaf mi fyswn i a fy ffrindiau wedi mwynhau yn Neuadd Ogwen a lleoliadau tebyg dros yr haf.

Cefais sgwrs diddorol gyda’r cerddor Elis Derby am yr hyn sydd yn digwydd, ac holiais am ei asesiad ar effaith COVID-19 ar y diwydiant gerdd yn Arfon. Cododd Elis sawl pwynt, yn sôn fod “nifer o artistiaid heb lot i neud” yn absenoldeb gigs, rhywbeth allai uniaethu at yn sicr. Cytuna’r ddau ohonom fod y gigs ffrydio ar y we wedi bod yn hwyl, ond yn y bôn, ni all hyn fyth lenwi’r bwlch mae absenoldeb gigs wedi ei adael. Hefyd rhaid cofio fod nid artistiaid yn unig sy’n ran o’r diwydiant; mae ffotograffwyr, hyrwyddwyr, gweithwyr sain a goleuo allan o waith. Mae stiwdios hefyd yn cael llai o waith oherwydd y cyfyngiadau. Mae artistiaid enwog yn Lloegr fel Liam Gallagher yn rhyddhau demos yn broffesiynol dros Spotify, yn hytrach na fynd trwy stiwdio ac yn recordio’r gan yn y modd arferol. Yn economaidd, mae hyn yn achosi i fwy o artistiaid recordio o adref, a mae’r effaith mae hyn yn cael ar fusnesau yn ofnadwy.

Mae’r ddau ohonom wedi cymryd rhan mewn sawl gig ffrydio, ac mi ddaru Elis “fwynhau perfformio yn unigol yn Neuadd Ogwen gyda Lewys” a mi wnes i’n sicr fwynhau gwylio’r gig yma. Roedd y Neuadd wedi cael canmoliaeth mawr gan nifer fawr o bobl am yr “setup wych”, ac fel cerddor sydd wedi perfformio yna sawl gwaith, dwi’n cytuno’n frwd, ac yn gobeithio gweld fwy o artistiaid newydd yno.

Er bod Maes B wedi cael ei ganslo, roedd Maes B o bell yn ŵyl ffantastig gyda Yr Eira, Ani Glass a Gwilym yn perfformio drwy sgrin. Mae hyn yn dangos enaid a gwydnwch pawb sydd yn ran o’r sin ac yn rywbeth i fod yn falch ohoni. Roeddwn i’n bersonol wedi recordio gyda LwpS4C er mwyn cael adloniant ar-lein cerddorol i gadw ffrwd y sin i fynd, ac roedd recordio gyda Lwp yn ystod pandemig yn brofiad ddiogel ond anghredadwy fod ni wedi symud ymlaen o fethu adael y tŷ, i chwarae o flaen camera mewn stiwdio yng Nghaernarfon.

Yn olaf, gofynnais iddo am ei farn a theimladau tuag at y llywodraeth yn y ffordd maent wedi delio gyda’r celfyddydau dros y pandemic. Cytuna’r ddau ohonom fod y llywodraeth heb wneud digon i atal yr diwydiant rhag fod mewn perygl rhagor. Roedd angen i’r gymuned celfyddydol ddechrau symudiad #lettthemusicplay er mwyn sicrhau arian i gadw’r ddiwydiant i fynd, ac dylai y llywodraeth fod wedi anghofio am lymder a sicrhau fod adnoddau digonol yn cael ei gyfeirio i’n cyfeiriad.

Yn sicr, nid yw popeth mae’r llywodraeth wedi wneud yn ddrwg, mae’r cynllun seibiant wedi achub llawer o bobl a wedi cadw sawl busnes i fyny. Dwi’n teimlo fod sawl anghysondeb o ran y rheolau gyda gigiau. Mae’n bosib i fynd ar awyren gyda cannoedd o bobl wahanol, ond mae’n amhosib i mi chwarae gitar yn ganol Llys Dafydd gyda ambell o bobl yn siopa yn yr farchnad. Er bod sawl gig ‘profi’ wedi digwydd yn Yr Wyddgrug, does dim llawer o sicrwydd o beth sydd i ddod yn y dyfodol. Eto, mewn adeg fel hyn, mae sicrwydd yn rhywbeth prin iawn.

Ond yn olaf, rhaid cofio beth sy’n dechrau cerddoriaeth; pobl yn cael ei hysbrydoli, yn pigo i fyny sgidiau dawnsio neu offeryn ac yn dechrau dysgu. Mae yna gynnydd sylweddol yn y pobl sydd wedi prynu offeryn dros y cyfnod hwn. Mae Gear4music yn sôn am gynnydd o 80%! A phwy a ŵyr? Efallai mi fydd un o’r pobl yma yn chwarae ar y radio mewn blynyddoedd i ddod, ac yn cyfrannu hyd yn oed yn fwy at y sin diddorol rwyf yn falch iawn i fod yn rhan o.

“dwi’n gobeithio ddaw na rhywbeth da o’r holl beth wedi’r cyfan”

Yn hollol Elis, a finna hefyd.