Cefnogi’n gilydd

Carwyn
gan Carwyn

Mae hi’n gyfnod rhyfedd iawn, un does yr un ohonom wedi gweld ei debyg o’r blaen.

Ond yng nghanol y pryder, mae yna ysbryd cymunedol a gofal am ein gilydd i’w weld yma yn Nyffryn Ogwen. Mae ymdrechion i sicrhau fod pobl sydd methu gadael tŷ yn cael help cael bwyd ac ati.

Mae hanes yma am y cwmnïau lleol sy’n cludo bwyd a nwyddau https://caernarfon.360.cymru/2020/cwmniau-cludo-bwyd-arfon/

Ond i helpu i roi gwybod am yr ymdrechion lleol, cofiwch gallwch chi gyhoeddi stori, pwt o fideo neu rannu manylion am rywbeth perthnasol ar eich gwefan bro.

Gall unrhyw un neu grwp gyhoeddi ar y wefan. Yr unig beth sydd angen ei wneud ydi cofrestru o flaen llaw – sy’n cymryd dim o dro. Mae help am sut i gofrestru ar gael yma: https://bro.360.cymru/2019/frodor/

Mae gwybodaeth yma hefyd sy’n dangos pa mor hawdd ydi cyhoeddi stori: https://bro.360.cymru/2019/shwt-creu-stori-wefan/

Felly, ewch amdani. Gwnewch y mwyaf o’r wefan ac mi fydd unrhyw stori neu fideo fydd yn cael ei gyhoeddi yn cael ei rannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ogwen360 hefyd.