gan
Tom Simone
Mae Partneriaeth Ogwen wedi llwyddo i gael car trydan cymunedol i’n cymuned hyd at fis Tachwedd 2020 a hynny trwy gynllun Ceir Trydan Cymunedol Arloesi Gwynedd Wledig – prosiect a ariennir gan yr UE a ddarperir gan Menter Môn. Bydd y Nissan LEAF – ‘Carwen’ ar gael i unrhyw un ddefnyddio fesul awr neu ddiwrnod a’n bwriad yw cysylltu cynhyrchiant ynni cymunedol Ynni Ogwen i’r gwefrwr sy’n trydanu’r car.
Am fanylion i logi Carwen, ewch i https://www.ogwen.org/cy/prosiectau-eraill/carwen-y-car-trydan-cymunedol/