Yn ôl Alwyn Lloyd Ellis, Cadeirydd Sioe Dyffryn Ogwen, y dewis cywir yw canslo sioeau amaethyddol.
Dywedodd wrth golwg360 mai iechyd y cyhoedd sydd wrth wraidd gohirio unrhyw ddigwyddiad, a’i fod yn croesawu’r newyddion fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi penderfynu canslo Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Steve Hughson, na fydd y sioe yn cael ei chynnal eleni oherwydd Covid-19:
“Rydym yn deall effaith y penderfyniad hwn, sy’n cael ei wneud gyda chalon drom.”
“Bydd hon yn flwyddyn anodd i’r Gymdeithas ac rydym yn deall nad ydym ar ein pen ein hunain ac y byddwn i gyd yn cael ein heffeithio gan ganlyniad ariannol y senario yma.”
Eglurodd Cadeirydd Sioe Dyffryn Ogwen, mai’r bwriad gwreiddiol oedd aros i weld beth fyddai’r Sioe Frenhinol yn ei wneud cyn canslo Sioe Dyffryn Ogwen.
Er hyn penderfynodd y pwyllgor ganslo Sioe Dyffryn Ogwen ddydd Iau diwethaf (Mawrth 19), ar ôl i nifer o sioeau eraill hefyd wneud yr un penderfyniad.
“Mae’n ddewis anodd i ganslo unrhyw sioe amaethyddol, ond heb os dyma yw’r dewis cywir dan yr amgylchiadau.”
“I ni fel pwyllgor roedd yn ddewis anodd iawn, yn enwedig gan ein bod ni hefyd wedi gorfod canslo’r sioe llynedd hefyd o ganlyniad i dywydd garw.”
Osgoi colledion ariannol
Ychwanegodd y byddai hefyd wedi bod yn anodd iawn i drefnu sioe dros y ffôn ac e-bost yn unig, ond mae’r pwyllgor yn ffyddiog eu bod nhw wedi llwyddo i osgoi colledion ariannol wrth ganslo’r digwyddiad yn ddigon cynnar.
“Mwynhad ydy nod unrhyw sioe amaethyddol, a poeni fysa ni fel arall.”
“Wrth ganslo Sioe Dyffryn Ogwen yn ddigon cynnar roedd modd i ni osgoi unrhyw golledion ariannol.”