Canolfannau cymunedol yn cael ailagor yng Nghymru, ond “nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud”, meddai’r Prif Weinidog

Mae Neuadd Bentref Rhiwlas wrthi yn trafod sut i gynnal asesiadau risg er mwyn ail agor yn raddol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Neuadd Rhiwlas

Yn sgil y coronafeirws mae canolfannau cymunedol, sydd yn ganolbwynt i gymunedau yng Nghymru, wedi bod ynghau ers i’r cyfyngiadau ddod i rym fis Mawrth.

Heddiw cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bydd canolfannau cymunedol yn cael ailagor ddydd Llun (Gorffennaf 20).

Eglurodd Elwyn Jones wrth Golwg360 fod pwyllgor Neuadd Bentref Rhiwlas wrthi yn trafod sut i gynnal asesiadau risg er mwyn ail agor yn raddol.

Bydd campfeydd awyr agored, meysydd chwarae a ffeiriau hefyd yn cael ailddechrau ddydd Llun fel rhan o’r mesurau diweddaraf i godi cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru.

Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r rhain yn ailagor cyhyd â bod lefelau’r coronafeirws yn parhau i gwympo yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd modd i’r cyfleusterau yma ailagor yn raddol dros yr wythnosau nesaf.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog, er bod y cyhoeddiad yma yn “golygu bod y llefydd hyn yn cael ailagor, nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud.”

Neuadd Bentref Rhiwlas

Eglurodd Elwyn Jones, Cadeirydd Neuadd Bentref Rhiwlas, bod pwyllgor y neuadd wedi cynnal cyfarfod nos Fercher diwethaf er mwyn trafod sut mae gwneud yn siŵr fod yr adeilad yn ddiogel i ddefnyddwyr.

“Rydym ni yn ymwybodol ein bod ni’n cael ail agor, ond dydyn ni ddim mewn sefyllfa i ail agor ar hyn o bryd.

“Bydd y pwyllgor yn mynd ati i wneud asesiad risg ar yr adeilad yn fuan, ac ein bwriad yw rhoi diweddariad i bobol leol ddechrau mis Awst.”

Ychwanegodd fod y neuadd wedi manteisio ar yr amser yma i wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw.

“Mi oeddan ni wedi cael grant i uwchraddio ystafell gymunedol cyn y covid, ac yn ddiolchgar i weithiwr lleol am fynd ati i ail baentio’r adeilad yn ystod y cyfnod yma.

“Gobeithio bydd modd croesawu pawb yn ôl yn fuan, a gwneud hynny’n saff.”

“Camau gofalus”

Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bydd ailagor canolfannau cymunedol yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu cynlluniau chwarae a gofal plant yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd canolfannau cymunedol yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau’r haf.”

“Er bod codi’r cyfyngiadau’n golygu bod y llefydd hyn yn cael ailagor, nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud.  Gallai pryd yn union maen nhw’n ailagor amrywio wrth i berchenogion asesu’u sefyllfa a gwneud y newidiadau angenrheidiol.

“Wrth i ni gymryd y camau gofalus hyn, peidiwch da chi â meddwl bod y feirws wedi gadael y tir.

“Gallai’n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru’n ddiogel.”

Cyfnod prysur yn Neuadd Rhiwlas

Carwyn

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn un go brysur ar gyfer Neuadd Bentref Rhiwlas.