Bwystfilod Bach Bethesda

Rygbi dan chwech

Carwyn
gan Carwyn

Fyddai gan eich plant chi ddiddordeb ymuno gyda Bwystfilod Bach Bethesda?

Peidiwch â phoeni – rygbi dan 6 oed ydi’r bwystfilod. Mae’n gyfle gwych i’r plant ymarfer yng nghwmni ffrindiau – a hynny AM DDIM!

Mae’r criw hyfforddi yn gobeithio y bydd posib ail-gychwyn y sesiynau dros yr wythnosau nesaf. Os bydd rheolau Covid-19 yn caniatáu, bydd yr hyfforddi pob bore Sul o 10.30 tan 11.30.

Os oes gan eich plentyn ddiddordeb, cysylltwch gyda Hannah ar 07816316236 A bydd yn eich ychwanegu i’r grŵp Whats App lle bydd yr holl ddiweddariadau yn ymddangos.