Yng nghanol y cyfnod ansicr hwn, mae staff a llywodraethwyr Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg, Bethesda yn awyddus i weld eich cynigion ar greu logo newydd.
Bydd cyfle i ddisgyblion yr ysgol ac eraill o’r gymuned roi cynnig arni. Mae’r ysgol yn awyddus gweld eich creadigrwydd a’ch syniadau sydd yn dathlu’r cydweithio a’r undod sydd rhwng y ddau sefydliad.
Bydd y logo yn cael ei ddefnyddio ar ohebiaeth, tudalen facebook, twitter yr ysgol ac yn y blaen. Ni fydd ar gyfer gwisg ysgol, ac nid oes bwriad newid gwisg ysgol Pen-y-bryn nag Abercaseg yn y dyfodol agos.
“Gan ein bod ar fin cychwyn pennod newydd yn hanes y ddwy ysgol, rydym wedi penderfynu y buasai’n amser gwych i fabwysiadu logo newydd sbon i’r ysgol drwy gyfuno’r ddau logo presennol,” meddai’r pennaeth Gethin Thomas.
“Gan fod y symbol cyfredol cun a morthwyl Pen-y-bryn mewn lle eisoes ac sy’n symbol o’n diwydiant, diwylliant a’n hanes, ni fydd angen newid ei edrychiad o gwbl. Er hyn, mae cyfle yma i ni blethu egwyddorion ysgol ac ardal Abercaseg gyda’r cun a morthwyl.
“Er mwyn cael y logo gorau a mwyaf slic rydym yn gofyn yn garedig i’r gymuned leol hefyd gynnig eu syniadau am logo gwreiddiol, modern sydd yn berthnasol i Ben-y-bryn ac Abercaseg ac ardal Bethesda.”
Mae ambell i faen prawf i’r lluniadau; rhaid i’r logo fod yn amlinell lliw du yn unig (dim lliw), rhaid cynnwys enw Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg yn amlwg a chlir, rhaid i’r logo fod yn berthnasol i hanes, tirlun neu ddiwylliant Bethesda.
Croesewir syniadau am arwyddair i gyfleu gweledigaeth, gwerthoedd a dyheadau’r ysgol, i gyd-fynd â’r logo, fel sydd gan rai ysgolion yn barod.
Dyddiad cau ar gyfer anfon y syniadau i’r ysgol yw 14/09/20. Cofiwch gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn. Anfonwch eich ymgais yn y post i Ysgol Abercaseg neu ar e-bost at gethinelisthomas@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y Cyngor Ysgol yn dewis rhestr fer ac yna yn cyflwyno eu dewis i’r llywodraethwyr a’u cyd-ddisgyblion er mwyn penderfynu ar y logo terfynol.