Y berthynas yn parhau, er bod prosiect ‘Byw a Bod’ ar ben

Edrych yn ôl ar lwyddiant prosiect ‘Byw a Bod’ yn Nyffryn Ogwen

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ers mis Awst mae Elin, Cadi, Caleb a Lisa wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ein cymuned fel rhan o gynllun wyth wythnos ‘Byw a Bod yn y Gymuned’.

Mae’r cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig, wedi darparu cyfleodd gwaith i bobol ifanc mewn cymunedau ar draws y sir.

Y bwriad, oedd darparu cyfle i’r bobl ifanc leol fynd ati i adnabod a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau sydd yn benodol i’w hardal nhw.

Partneriaeth Ogwen

Yn ôl Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen:

“Roedd Partneriaeth Ogwen ddigon lwcus i gael pedwar swyddog ‘Byw a Bod’ yn gweithio hefo ni ac roedd y pedwar yn gwneud gwaith datblygu cymunedol yn ardal Dyffryn Ogwen,” meddai.

“Mae’r pedwar wedi bod yn gwneud prosiectau gwahanol ond hefyd yn cydweithio fel tîm o bedwar a hefo tîm ehangach Partneriaeth Ogwen.

“Mi oedd o’n gyfle da iawn iddyn nhw.”

Profiadau’r bobl ifanc

Wrth drafod ei phrofiad o weithio yn y Dyffryn fel rhan o gynllun ‘Byw a Bod’, dywed Elin Cain:

“Dwi ’di cael profiad anhygoel o weithio efo pobol sy’n gwneud gwaith gwych yn y gymuned,” Eglurai, “ma’ Partneriaeth Ogwen yn dîm lyfli i weithio efo, ond ma’ nhw hefyd di rhoi’r cyfle i ni fod yn annibynnol a datblygu syniadau ein hunain.”

“Dwi ’di dysgu lot am waith tîm, ond hefyd gweithio’n annibynnol. Ma’ di dangos hefyd bod ‘na gyfle i ni weithio yn Nyffryn Ogwen, a bod mentrau fel Partneriaeth Ogwen eisiau clywed syniadau gan bobol ifanc fel ni am ein cymuned, er mwyn helpu i’w ddatblygu.”

Prosiect Datblygu Cefnfaes

Roedd y pedwar person ifanc yn gyfrifol am brosiect annibynnol yn yr ardal.

Dyletswydd Elin, oedd cynghori ar brosiect adfywio’r hen adeilad cymunedol Cefnfaes, dywed:

“Felly’n fras oedd angen i fi neud yn siŵr fod pawb efo’r wybodaeth oedda nhw angen am y prosiect er mwyn ymateb i holiadur neshi greu.”

“Bwriad yr holiadur oedd cael tystiolaeth o ddiddordeb am y prosiect a’r syniadau er mwyn gallu gwneud ceisiadau grant. Neshi greu fideos, a helpu i ddechrau cyfrif Instagram Partneriaeth Ogwen er mwyn apelio tuag at gynulleidfa wahanol.”

Dywed Elin ei bod wedi cael “ymateb positif iawn i’r gwaith oni’n neud gan y gymuned fyd, sy’n lyfli i weld!”

Y berthynas yn parhau

Yn ôl Meleri Davies, mae’r cynllun hwn wedi gosod y sylfaen ar gyfer amryw o brosiectau neu fentrau cymdeithasol, ac maen nhw nawr am “drosglwyddo’r awenau i wirfoddolwyr lleol” i gymryd rheolaeth ohonyn nhw.

Serch hynny, mae’n debyg fod y berthynas yn parhau er bod prosiect ‘Byw a Bod’ ar ben.

“Be’ sy’ mor neis hefyd ydi, ‘dan ni wedi cael y pedwar ohonyn nhw’n gweithio hefo ni am wyth wythnos, ‘dan ni’n cadw un ohonyn nhw ymlaen am gyfnod hirach, tra bod y tri arall wedi mynd yn ôl i’r coleg,” meddai Meleri.

“Ond, fydda i’n cadw mewn cysylltiad agos hefo nhw ac os oes yna gyfleodd gwaith neu wirfoddol yn codi, mi fydda i’n sicr yn cysylltu hefo nhw.”

Ehangu’r cynllun i weddill Cymru

Wrth drafod a oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu’r cynllun ar gyfer gweddill Cymru, dywed Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig mai “pwrpas y rhaglen ydi bod partneriaethau eraill a mentrau cymdeithasol yn edrych ar fodel Byw a Bod ni, a’i ddefnyddio fo a’i ail fodelu fo gan ddysgu o be’ ‘dan wedi’i wneud”.

“Mi yda ni’n annog cymunedau eraill yng Nghymru i fod yn edrych ar wneud hynny.”