gan
Carwyn
Oes gennych chi unrhyw wybodaeth am ddifrod sydd wedi ei achosi i dŷ bach twt Cylch Meithrin Tregarth?
Fe achoswyd y difrod ryw ben nos Lun, 24 Chwefror.
Mae’r heddlu yn ymwybodol o’r difrod ac mae’r cylch yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda nhw ar 01248 602802.