Dyma’r arwyddion cyntaf o’u math yng ngwledydd Prydain.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i osod yr arwyddion ar hyd ffyrdd yn Eryri sy’n boblogaidd gyda beicwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd: “Mae llawer o bobl wedi gwneud y mwyaf o’r ffyrdd tawelach yn ystod y cyfnod cloi, ond gyda’r traffig yn araf gynyddu, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i sicrhau bod beicwyr yn parhau i gael y parch a’r gofod maent yn eu haeddu ar ein ffyrdd.

“Gyda mwy o bobl yn defnyddio beicio fel modd arall o deithio ac at ddefnydd hamdden, rhaid i ni sicrhau bod pawb sydd allan ar eu beic – o deuluoedd a beicwyr achlysurol i aelodau o glybiau beicio ffordd lleol – yn teimlo’n ddiogel ar y ffordd.

“Rwy’n falch felly mai Gwynedd fydd y cyntaf i dreialu’r arwyddion pellter pasio diogel newydd yma.

“Os ydyn nhw’n profi i fod yn boblogaidd rydym yn gobeithio gallu eu gweld yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o Wynedd a thu hwnt.”

Mae’r arwyddion yn cael eu treialu ar hyd ffyrdd, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Mymbry, Pas Llanberis, Pen y Gwryd, Nant Gwynant a Drws y Coed.

Ymestyn y cynllun i ardaloedd eraill

Mae ymgyrch GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru sy’n cael ei arwain gan yr Heddlu, hefyd yn gobeithio gall y cynllun gael ei ymestyn i ardaloedd eraill yng Nghymru.

Eglurodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll fod gan bawb yr hawl i ddefnyddio rhwydweithiau ffyrdd ac i wneud hynny yn “ddiogel ac yn hyderus.”

“Mae GanBwyll yn llwyr gefnogi treialu’r arwyddion pellter pasio diogel newydd ar ffyrdd Gwynedd ac yn gobeithio y bydd yr arwyddion hyn yn atgoffa modurwyr i fod yn ymwybodol o’r pellter maent yn ei roi i feicwyr wrth oddiweddyd, a fydd yn cyfrannu’n sylweddol at eu diogelwch wrth iddynt ddefnyddio’r ffyrdd.

“Nod GanBwyll ydi gweithio gyda’n partneriaid ym mhob Awdurdod Lleol ledled Cymru i ddatblygu’r cynllun arwyddion hwn ymhellach, a fydd yn y pen draw yn dod yn gyffredin ar lwybrau beicio poblogaidd ledled Cymru.

“Gall achos o basio agos arwain at ganlyniadau difrifol a gall effeithio’n drwm ar ddiogelwch a hyder beicwyr.

“Rydym yn annog pob modurwr i gymryd sylw ar y pellter pasio diogel ac i chwarae eu rhan wrth wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.”