Arestio deg o gerddwyr o Lundain yn ardal Bethesda

Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrth y bobol am“fynd adref ar unwaith”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Logo Heddlu Gogledd Cymru

Mae deg o bobol o Lundain wedi cael eu harestio ar ôl teithio i ardal Bethesda.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, roedden nhw’n teithio mewn dau gar ar eu ffordd i gerdded yn Eryri.

Dywed yr heddlu iddyn nhw ddweud wrth y bobol am “fynd adref ar unwaith”, a’u bod nhw wedi cael eu tywys i’r A55.

Cawson nhw eu riportio am dorri rheolau COVID-19, meddai’r heddlu.