Annog perchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn

Carwyn
gan Carwyn

Fel rhan o ymdrechion i sicrhau fod cymunedau fel Dyffryn Ogwen yn llefydd saff a dymunol i fyw, mae Cyngor Gwynedd yn annog perchnogion cŵn i sicrhau eu bod yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.

Tra bo’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu gorau i gadw’r strydoedd yn lân, mae lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol yn creu poendod.

Bod yn gyfrifol

Meddai’r Cynghorydd Rheinallt Puw, Aelod Cyngor Gwynedd dros ward Ogwen Bethesda: “Mae nifer fach o droseddwyr baeddu cŵn cyson yma ym Methesda sydd ddim yn codi a gwaredu baw eu hanifeiliaid nac i’w weld yn boenus o effaith eu hesgeulustod ar iechyd a llesiant eraill. Mi fyddwn i’n annog perchnogion i fod yn gyfrifol a gwneud siŵr eu bod yn glanhau ar ôl eu hanifail anwes.”

Y Cynghorydd Rheinallt Puw

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd: “Fel perchennog ci fy hun, dw i’n gwybod faint o lawenydd all ci ddod i’r cartref. Gall cŵn fod yn aelodau gwerthfawr o’r teulu, a chynnig cyfraniad arwyddocaol i lesiant eu perchnogion.

“Ond mae bod yn berchennog ar gi yn gyfrifoldeb; a rhan o hynny ydi sicrhau fod baw eich anifail anwes yn cael ei ddelio ag o’n addas. Tydi llenwi bagiau â baw a’u gadael ar ochr y ffordd, meinciau a choedwigoedd ddim yn briodol, a tydi gadael bagiau o faw ar y stryd neu mewn mannau cyhoeddus yn bendant ddim yn dderbyniol.”

Mae llawer o gŵn wedi eu heintio â pharasit a all fod yn niweidiol i bobl, yn enwedig plant. Toxocariasis ydi afiechyd o ganlyniad i wyau toxocara yn cael eu trosglwyddo o gŵn i bobl drwy faw cŵn neu bridd heintus. Fe all yr haint arwain at waeledd difrifol a hyd yn oed colli golwg.

Yng Ngwynedd mae hi’n drosedd i fethu â glanhau ar ôl ci sydd wedi baeddu. Mae hefyd yn drosedd i fynd â chŵn i ardaloedd chwarae plant penodedig, meysydd ysgol, caeau chwaraeon a rhai lan-moroedd (Ebrill-Medi). Gallai troseddwyr dderbyn dirwy o £100, gyda methiant i’w dalu yn arwain at bosibilrwydd o wŷs llys a dirwy o £1,000.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wager: “Tra bo’r Tîm Gorfodaeth Stryd yn cynyddu eu patrolau i drio herio’r rheiny sy’n troseddu’n gyson, hoffwn bwysleisio fod y Cyngor hefyd yn ceisio cefnogi perchnogion i ddelio gyda’r gwastraff yn y ffordd gywir. Er enghraifft, rydym yn cynnig bagiau pydradwy am ddim i’r cyhoedd yn nifer o leoliadau gan gynnwys Siopau Gwynedd y Cyngor a rhai llyfrgelloedd cyhoeddus hefyd.”

Cysylltwch gyda Thîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth. Fe allwch gysylltu gyda’r tîm drwy ‪01766 771000‬ neu e-bostio ‪gorfodaethstryd@gwynedd.llyw.cymru‬