ALBWM NEWYDD DAFYDD HEDD – HUNANLADDIAD ATLAS

Blas ar albwm newydd Dafydd Hedd.

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

 Hunanladdiad Atlas; enw unigryw ond eto yn sylweddol yw creadigaeth newydd Dafydd Hedd. Wedi ei recordio yn ei stiwdio gartref, yn ei attic, mae swn cyffroes a chwildroadwy yn dod yn amlwg i’r glust. Gyda chymorth astud Sam Durrant o Stiwdio Un yn Rachub, ac oriau o waith caled a hwyl, cawn dilyniant addas at ei album gyntaf, Y Cyhuddiadau. 

Caiff yr albym newydd ei rhyddhau yn annibynol ar Ebrill 4, 2020, ac er mwyn dathlu yr holl waith ac i roi siawns i bobl gael mwynhau’r gerddoriaeth, mae gig ar-lein Facebook ac Instagram wed cael ei drefnu.Yn wyneb gyfarwydd yn ei ardal, wedi chwarae yng Ngwyl Neithiwr gyda bandiau fel Los Blancos, KIM HON, Tri Hwr Doeth, ac wedi gigio gyda’r goreuon lleol Maffia Mr Huws, Celt, a Bryn Fon. Felly mae yna digon o gyfle i glywed yrcerddor boblogaidd o Fethesdafel y ddydai y cylchgrawn Selar. 

O ran sylwedd yr albym, dywediad poblogaidd yw fod llun yn dweud fil o eiriau ac yn yr achos hyn, mae’n wir iawn. Wedi cael ei ddylunio gan gelfydd newydd Kelsey Browne, mae’r llun yn dangos arfordir y Gogledd, yn gartref iddo yn meddalu i fewn i’r fflamauthywyllwch. Gweledigaeth sy’n cael ei adleisio gan brif gan yr album; Fflamdy. “Chwithig yw hunanladdiad atlas, tannau yn neidrau sownd yn dall, mae’n teimlo fel diwedd y byd, a dechrau y fflamdy, fflamdy”. 

Fel y awgrymir gan y dyfyniad, prif thema yr album yw sylwedd sydd yn yn digwydd yn y byd heddiw. Mae Fflamdy yn son am yr emosiynau o ofn, panic ac anobaith sy’n dilyn pan mae pobl yn sylweddoli ein sefyllfa peryglus o fewn y byd, ac yr hyn sydd yn ei gorddi fwyaf yw’r anghytundeb o ran cymeryd cyfrifoldeb am y broblem, ac yr pwyntio bysedd diddiwedd sydd yn cuddio y broblem fwyaf yn ei hun, sef trachwant o fewn bodau dynol am bres. 

Mae caneuon arall fel Deilen Ar Goll yn dilyn llwybr tebyg, ond yn son yn benodol am ddynoliaeth yn colli ein ffordd drwy’r stori ac yn defnyddio y dywediadmae’r ddeilen ar gollfel symboliaeth o anallder bodau dynol i ddelio gyda phroblemau heddiw. Gwelir elfenau syml yn y gan Cysylltiad, sydd yn eto son am bobl sy’n or-ddibynol ar dechnoleg mewn bywyd pob dydd a sut mae sgyrsiau ac ein diwrnodau yn colli sylwedd o ganlyniad 

Yn dilyn thema hollol wahanol, mae yna ganeuon am gariad ar yr albym hefyd: Theimlad Cyfarwydd a Phrin yn son am agweddau anamrwymiadol pobl ifanc mewn cymdeithas fodern, Glowstick yn son am sefyllfa dorcalonnus yn anghofio am atgofion a’r teimladau cudd o bryder ac ddi-hapusrwydd o fewn berthynas; ac North Pole, yn son am persona dychmygol yr artist yn ceisio caru person oeraidd a sych, ac agweddau arwynebol cymdeithas fodern 

Caneuon sydd yn wahanol I’r arfer yw Craith Weledol, sef prif ddisgrifiad Dafydd Hedd o edrychiad a hanes y Chwarel Penrhyn ym Methesda, ac y ddadl o dwristiaeth yn erbyn parch at y bobl sydd wedi marw yno ac sylwedd y gymuned. Geiriau hallt felMyga yn gryf drwy golli waed pur coch, lle does na’m gobiathyn disgrifiopoen pelydrolyr ardal ac casineb hollol gytun yr ardal dros yr arglwydd Penrhyn. Mae Heddiw yn hen ffefryn, yn son am bwysicrwydd gariad dros phres ac sut mae’n anodd aros yn foesol gyda’r holl ddewisiadau a phenderfyniadau sydd yn ein taro mewn bywyd. A chan olaf yr albym sef Atlantico, yn bum munud a hanner! Sonia Atlantico am erydiad y mor, a mae’n symbolaidd o golli ffrindiau ac newid wrth dyfu i fyny, mae gwynebau yn newid trwy’r adeg heb sylwi, ac yn y diwedd mae popeth yn disgyn: “These pillars of sand will fall, Atlantico, and when they fall the people see, you’re a good man of destiny”. 

Dywedai sawl enw mawr pethau cadarnhaol am yr album, yn cynnwys Ifan Pritchard (prif ganwr Gwilym), Sarah Wyn (yn rhedeg y sioe Sarah Wyn ar MonFM pob dydd Sul), Huw Bebb oDri Hwr Doeth ac Deiniol Morris o Maffia Mr Huws: Mae pob un wedi cytuno I wneud adolygiad o’r albym ond dim ond Sarah Wynne sydd wedi gorffen eu adolygion ar hyn o’r bryd: yn ei geiriau hi:

 

“Mae @DafyddHedd

wedi datblygu ei grefft yn yr albym newydd yma. Dwi’n clywed mwy o arbrofio efo’i sŵn ond yn cadw at ei ddawn cryf o ysgrifennu geiriau ac adrodd teimladau a straeon. Mae ei dalent blynyddoedd maith o flaen ei oed. Mae’n fraint gael gwrando ar yr albym yn gyntaf” – Sarah Wynne Jones – MON FM

Bydd yr albym hon ar werth yn ddigidol drwy iTunes Store, Google Play Store, Amazon, ac ar gael i’w wrando ar Spotify, Apple Music, YouTube, SoundCloud ac hyd yn oed TikTok! Llawrlwythwch yr albym a dechreuwch y chwildro, rhannwch gyda eich ffrindiau ac yn bwysicach oll, mwynhewch y cerddoriaeth newydd!