Ymgeisydd Brexit yn osgoi dadl etholiad

Undeb Myfyrwyr Bangor yn ‘siomedig’ na fydd yr holl ymgeiswyr mewn cyfarfod hystings

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mi fydd dadl etholiadol yn ardal Arfon yn digwydd heno er i ymgeisydd Plaid Brexit anwybyddu gwahoddiad i gymryd rhan.

Yn ôl Harry Riley, Is Lywydd Addysg Undeb Myfyrwyr Bangor, fe gafodd yr ymgeiswyr i gyd eu gwahodd i’r ddadl sydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Pontio ym Mangor dan adain yr Undeb.

Mae disgwyl i ymgeiswyr y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Llafur fod yno ac mae’r Undeb yn dweud bod croeso o hyd i i Garry Gribben o Blaid Brexit.

Daw hyn wythnos wedi i Neuadd Ogwen ym Methesda orfod canslo dadl debyg oherwydd diffyg cynrychiolaeth o’r pleidiau – er fod Hywel Williams o Blaid Cymru a Steffie Williams Roberts o’r blaid Lafur wedi cytuno i gymryd rhan.

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd Neuadd Ogwen fod ymgeiswyr Y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit unai heb ateb, neu wedi gwrthod y cynnig i fod yn rhan o’r ddadl.

Mi fydd y ddadl etholiadol yn Pontio yn mynd yn ei flaen heno am 6:30yh.

 

Ymgeiswyr Arfon:

  • Gonul Daniels, Ceidwadwyr
  • Gary Gribben, Plaid Brexit
  • Hywel Williams, Plaid Cymru
  • Steffie Williams Roberts, Llafur