Tymor Ewyllys Da ym Methesda

Cymdeithas leol yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd wythnos cyn y Nadolig.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ar ôl i focs elusen Cerebra gael ei ddwyn yn ddiweddar o ganolfan Slimming World, daeth ergyd arall i gymdeithas Bethesda wedi i rywun dorri fewn i’r Clwb Criced a Bowlio’r dref nos Fercher.

 hithau wythnos yn unig cyn y Nadolig, penderfynodd Beth Woolly sy’n byw yn lleol osod cronfa i gefnogi’r rhai oedd wedi’u heffeithio. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei rannu rhwng Clwb Criced a Bowlio Bethesda a’r elusen plant, Cerebra.

Dywedodd Beth Woolly mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ‘Rwy’n gwybod bod gan y ddau ohonynt yswiriant, ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na hynny – mae’n bwysig ein bod ni fel cymuned yn dod at ein gilydd a chefnogi ein gilydd ar adegau fel hyn.’

Mae’r gronfa eisioes wedi codi dros £110 ac mae dal modd cyfranu gan ddilyn y ddolen yma.

Mewn datganiad  dywedodd Clwb Criced a Bowlio Bethesda fod y lladrad “yn ergyd enfawr i’r clwb sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr” ond ei bod nhw’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cynnig cefnogaeth ers y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad all fod o gymorth, cysylltwch gyda’r clwb neu yn uniongyrchol gyda’r Heddlu drwy ddyfynnu’r rhif digwyddiad – X182066