Torri fewn i Glwb Criced a Bowlio Bethesda

Y clwb yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Criced a Bowlio Bethesda yn apelio am wybodaeth wedi i rywun dorri fewn i’r clwb nos Fercher.

Mewn datganiad ar ei dudalen Facebook, mae’r clwb dweud bod y drosedd wedi digwydd rhwng 10 o’r gloch nos Fercher a 8:30 bore dydd Iau yr wythnos hon.

Yn anffodus mi nath rywun dori i fewn ir Clwb ryw adag rhwng 10yh nos Ferchar a 8:30yb heddiw. Os oes gan rywun…

Posted by Clwb Criced a Bowlio Bethesda Cricket & Bowling Club on Thursday, 19 December 2019

 

Mae’r clwb wedi diolch am y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael, a diolch hefyd i gwmni lleol am drwsio’r to oedd wedi’i ddifrodi yn ystod y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r clwb ar 01248 600833.