M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’ – ac yn dechrau ym Methesda

Y cwmni gwyddoniaeth a thechnoleg yn cyraedd Bethesda.

Guto Jones
gan Guto Jones

Mae ’na ddatblygiad newydd cyffrous ar Stryd Fawr Bethesda, wrth i M-Sparc fynd ar daith. Prosiect blwyddyn yw ‘M-Sparc ar daith’, ble fydd cwmni gwyddoniaeth a thechnoleg M-Sparc yn teithio o amgylch y rhanbarth.

Sefydlwyd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth yn Gaerwen sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Y math o yrfaoedd sydd yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu.

Mae M-SParc yn angerddol am sicrhau eu bod yn creu effaith real, a bod holl bobl Arfon, Môn a Conwy yn profi gwerth cael Parc Gwyddoniaeth yn y rhanbarth. Mae’r cwmni’n credu bydd mynd ar y daith yma yn helpu i hyn ddigwydd, wrth ysbrydoli unigolion yn eu cymunedau.

Bydd y daith wedi ei lleoli yn swyddfa Dyffryn Gwyrdd Bethesda am dri mis, ac yn agor eu drysa am y tro cyntaf heddiw (Tachwedd 1af).

Adeilad M-SParc yn Gaerwen.

Dywed Sofie Roberts, ‘swyddog ar y lôn’ y daith, bod y prosiect wedi creu diddordeb yn yr ardal yn barod wrth i sawl un ddechrau holi beth sydd yn mynd ‘mlaen yn adeilad Dyffryn Gwyrdd. Edrycha’r tîm ymlaen yn fawr iawn at gyrraedd Bethesda a gweithio yn y gymuned. Croeso oll sydd eisiau dod i ddefnyddio’r gofod i weithio gyda’r Wi-Fi am ddim, i holi am gychwyn busnes, i gael cymorth, neu wrth gwrs i fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar gyfer plant, oedolion sydd mewn busnes, ac ar gyfer rhai sydd yn meddwl cychwyn busnes. Gwelir rhestr o’u digwyddiadau yma – Digwyddiadau M-SParc ‘ar y lôn’.

Marc a Menai, sydd ar y daith gyda M-SParc.

Bydd sawl peiriant offer ar gael i’w defnyddio hefyd, gan gynnwys argraffydd 3-D, a chit ‘sublimation’ – offer defnyddiol iawn i greu logos ar gyfer crysau-t a mygiau. Ariennir yr offer yma gan raglen ARFOR – prosiect arloesol i ddatblygu’r economi leol a hybu’r iaith Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar eu tudalen Facebook, ar eu gwefan, neu cysylltwch â Sofie ar arylon@m-sparc.com