Pedwar yn y ras i ennill sedd Arfon

Mae ymgeiswyr Plaid Cymru, y Blaid Lafur, y Torïaid a’r Brexit Party yn Arfon wedi’u cyhoeddi.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae enwau ymgeiswyr etholaeth Arfon yn Etholiad San Steffan 2019 wedi’u cadarnhau.

Bydd Gonul Daniels yn cynrychioli’r Torïaid, Gary Gribben yn sefyll dros y Brexit Party, Steffie Williams Roberts o’r Blaid Lafur, a Hywel Williams yw ymgeisydd Plaid Cymru.

Does dim ymgeisydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd, wedi i’r pleidiau hynny ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru y bydden nhw’n sefyll i lawr er mwyn ceisio sicrhau bod y bleidlais gwrth-Brexit yn mynd i Hywel Williams.

Bu Hywel Williams yn Aelod Seneddol Arfon ers i’r sedd gael ei chreu yn 2010, a chyn hynny bu’n cynrychioli etholaeth Caernarfon rhwng 2001 a 2010.

Y sedd agosaf yng Nghymru 

92 pleidlais yn unig oedd ynddi yn etholiad Mehefin 2017 – dyma’r etholaeth agosaf yng Nghymru y flwyddyn honno:

  • Plaid Cymru: 11,519
  • Y Blaid Lafur: 11,427
  • Y Blaid Geidwadol: 4,614
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol: 648

Mae Arfon yn cynnwys cymunedau Dyffryn Ogwen, Bangor, Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, ac mae manylion eich gorsafoedd pleidleisio lleol yma.

Bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 12 Rhagfyr.

* * *

Isho helpu pobol ardal Arfon i ddilyn hynt a helynt yr etholiad? Cysylltwch â Bro360 i ddarganfod sut y gallwch chi ddefnyddio eich gwefan fro newydd i ohebu ar yr wleidyddiaeth o safbwynt lleol.