Partneriaeth Ogwen yn lansio prosiect WiFi cymunedol ym Methesda.

ynllun Wifi cymunedol yn caniatáu i bobl leol a thwristiaid fynd ar-lein am ddim

gan Tom Simone

Mae busnesau ym Methesda yn harneisio pŵer technoleg i hyrwyddo eu hunain a’r dref.

Bydd cynllun Wifi cymunedol – sy’n gweithredu ar hyd Stryd Fawr Bethesda – yn caniatáu i bobl leol a thwristiaid fynd ar-lein am ddim.

Bydd y Wifi yn cysylltu ag Ogwen.cymru, gwefan newydd sy’n hyrwyddo busnesau, sefydliadau, digwyddiadau, a phethau i’w gwneud yn Nyffryn Ogwen

Mae’r prosiect wedi’i sefydlu gan Bartneriaeth Ogwen, sefydliad menter gymdeithasol yn y dref sy’n gweithio mewn partneriaeth â fforwm busnes Bethesda. Ariannwyd y gosodiad WiFi gan brosiect Gwynedd Ddigidol Cyngor Gwynedd ac mae’n rhan o rwydwaith ehangach o gynlluniau WiFi cymunedol ledled Gwynedd. Bydd y prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol am 6pm, ddydd Mercher, Hydref 9fed yn Neuadd Ogwen, ar Stryd Fawr Bethesda.

Bydd samplau bwyd a diod am ddim gan Popty Caegroes, Pysgod Ar lein, a Cwrw Ogwen.

Yn ogystal â’r gefnogaeth grant gan Gyngor Gwynedd, mae’r Partneriaeth Ogwen wedi buddsoddi amser ac arian i greu swydd Swyddog Marchnata Lleol o fewn y cwmni. Maent hefyd wedi sicrhau nawdd gan gyflenwadau adeiladu CL Jones, Cyngor Cymuned Bethesda, Zipworld, a Llechi Cymru.

Prif noddwyr y prosiect yw cyflenwadau adeiladu CL Jones, Zipworld, a Welsh Slate.

Dywedodd Tom Simone, sy’n arwain y prosiect ar gyfer Partneriaeth Ogwen: “Mae Bethesda yn lle anhygoel; mae ar gyrion Eryri, ac mae llwyth o bethau i’w gweld a’u gwneud yma.

“Mae’n gyffrous iawn cael cymaint o fusnesau lleol yn dod at ei gilydd i gefnogi’r prosiect hwn – a’i gilydd – i hyrwyddo Bethesda a’r cyfan sydd gennym i’w gynnig.”

Dywedodd Mark Gray, perchennog y busnes bwyd môr Pysgod Ar lein: “Mae technoleg yn rhan hynod bwysig o’n busnes. Rydym yn llwyr gefnogi’r fenter newydd hon ac yn credu ei bod yn hwb mawr i’r ardal leol. ”

 

Mwy o wybodaeth Tom Simone / tom@ogwen.org / 01248 602 131