Merch o Fethesda yn gobeithio cynrychioli Cymru yn ‘Junior Eurovision’

Merch o Ddyffryn Ogwen sy’n gobeithio bod i’r brig a chale cyfle i gynrychioli Cymru.

Guto Jones
gan Guto Jones

Heno (Medi 24), bydd merch o Ddyffryn Ogwen yn gobeithio bod ar y brig, er mwyn ennill y cyfle i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision.

Bydd Rhiannon Roberts o Fethesda yn canu gyda Mackenzie o Fae Penrhyn, a byddent yn wynebu 5 perfformiad arall yn y rownd derfynol o ‘Chwilio am Seren Junior Eurovision’. Os eith y pâr trwodd i’r tri olaf, byddent yn dibynnu ar bleidlais ffôn i gyrraedd y brig –  a bydd y cyfan ar gael i chi wylio o 8pm ar S4C.

Bydd y cystadlu’n mynd yn ei flaen ar lwyfan Feniw Cymru, Llandudno. Os yn llwyddiannus, byddent yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwlad Pwyl diwedd Mis Tachwedd, ac yn cystadlu yn erbyn perfformiadau o ledled Ewrop.

 

 

Dwedodd y ferch 12 oed o ysgol Dyffryn Ogwen, mai dim ond mewn Eisteddfodau mae hi wedi cystadlu hyd yn hyn, felly bydd cystadlu’n fyw ar y teledu yn dipyn o brofiad.

Dyma fideo o Rhiannon yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol, Abertawe –

https://www.youtube.com/watch?v=WkgO1Es5-CE&feature=youtu.be&fbclid=IwAR3bYiLtfEDEyPn4oYo_KK6UpQWQ0mjq6oTwsM7-rfzZs2gbT50njlk03XQ

Dyma stori ar gyfer gwefan fro newydd Ogwen360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru