Meleri yn cipio’r dwbl

Meleri Davies o Fethesda yn fuddugol mewn dwy gystadleuaeth ynni cynaliadwy cenedlaethol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Meleri Davies wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd yng Ngwobrau Academi Cynaladwyedd Cynnal Cymru, a hefyd gwobr Arloeswr Ynni Gwyrdd yng ngwobrau Regen yn ddiweddar.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae Meleri, sydd yn byw ym Methesda, wedi bod yn arwain nifer o brosiectau cymunedol yn yr ardal.

Er hyn, mae Meleri yn cydnabod bod ei llwyddiant diweddar yn y ddwy gystadleuaeth wedi dod fel ychydig o sioc iddi. “Wrth gwrs rydw i’n falch iawn, ond yn fwy na dim yn ei weld fel cydnabyddiaeth o holl waith caled y gymuned, Partneriaeth Ogwen ac Ynni Ogwen.”

Un o lwyddiannau mwyaf Partneriaeth Ogwen yw’r cynllun hydro Ynni Ogwen. Ar ôl codi bron i hanner miliwn mewn cyfranddaliadau, a hynny mewn llai na dau fis, mae’r cynllun bellach yn cynhyrchu trydan o lif yr afon Ogwen ac yn ailfuddsoddi unrhyw elw yn ôl yn yr economi leol.

“Ers datblygu Ynni Ogwen mi’r ydan ni wedi codi hyder yn ein gallu ni fel cymuned i ddatblygu prosiectau cymunedol” meddai. “Wrth gwrs mae’r cynlluniau rydym yn gweithio arnynt yn dod â budd amgylcheddol, ond hefyd yn dod â budd cymunedol sydd yr un mor bwysig.”

Dyffryn Ogwen Cynaliadwy

Gweledigaeth Partneriaeth Ogwen yw creu Dyffryn Ogwen Cynaliadwy, ac mae’r gwobrau hyn yn destun i’w llwyddiant.

Mae’r car trydan cymunedol a chanolfan amlbwrpas ar Stryd Fawr Bethesda wedi profi’n llwyddiant mawr, a’r gobaith yw parhau i ddatblygu a buddsoddi mewn mwy o brosiectau tebyg er budd yr amgylchedd a’r gymuned yn y dyfodol.

 

Mae modd darllen rhagor am lwyddiant Meleri yn rhifyn diweddaraf Cylchgrawn Golwg  – 5 Rhagfyr 2019