Gweithdy disgyblion ym Methesda yn rhan o streic ysgol trwy’r byd

Mae yna ‘weithdy streic’ i bobol ifanc yn Neuadd Ogwen heddiw, yn rhan o’r gweithredu gan ddisgyblion ysgol dros yr argyfwng hinsawdd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae yna ‘weithdy streic’ i bobol ifanc yn Neuadd Ogwen heddiw, yn rhan o’r gweithredu gan ddisgyblion ysgol mewn 150 o wledydd dros yr argyfwng hinsawdd.

Gweithdy i greu baneri a phosteri ydi hwn y bore yma i baratoi ar gyfer protest fawr sy’n cael ei threfnu gan y mudiad protest Extinction Rebellion ym Mangor – mae disgwyl i nifer fawr o bobol ifanc lleol gymryd rhan.

Mae’r gweithdy’n rhoi cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd ym mlaen llaw yn eu cymuned, meddai Gareth Harrison o Cyd Ynni – y prosiect ynni cymunedol a chydweithredol sy’n trefnu’r gweithgaredd.

‘Dim annog’

Mae’r disgyblion sydd yn y gweithdy yn colli diwrnod o ysgol, ond ymateb i alw y mae’r mudiad, nid eu hannog, yn ôl Gareth Harrison.

“Does dim angen i ni annog pobol ifanc i streicio neu beidio, gan fod hynny’n benderfyniad y maen nhw eisoes wedi ei wneud ar eu liwt eu hunain,” meddai.

Mae’n mynnu bod yna resymau clir pam fod pobol ifanc yr ardal eisiau gweithredu gan fod “ymwybyddiaeth dda” yn lleol am yr amgylchedd a 300 o bobol yn rhan o’r prosiect ynni cymunedol a nifer o gyrff cymunedol ac amgylcheddol eraill yn y cylch.

Yr angen mawr, meddai, yw fod mwy o ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd o fen sefydliadau mawr “sydd â’r gallu i wneud newid mawr yn gymharol hawdd”.

“Nid y protestio ei hun sydd yn mynd i ddatrys y problem,” meddai. “Bwriad y brotest ydi tynnu sylw pawb arall at y broblem, er mwyn iddyn nhw weithredu rŵan. Fedrwn ni ddim aros am 10-20 mlynedd i sortio’r broblem, nes bod y plant yma yn oedolion.”

XR Gogledd Cymru sy’n trefnu’r brotest ym Mangor.