Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2019

Caren Brown
gan Caren Brown

Pob blwyddyn ym Methesda, cynhelir gŵyl arbennig yn yr ardal, sef Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.

Cafwyd cystadlu brwd yno eto eleni ar y nos Wener, sydd erbyn hyn wedi ei drefnu ar ffurf cyngerdd yn hytrach nag eisteddfod draddodiadol. Cafodd y beirniaid ar y noson – Guto Puw a Manon Prysor – wledd o noson a chafodd y cystadleuwyr buddugol eu gwobrwyo yn hael.

Roedd dydd Sadwrn yn gyfle i’r ysgolion cynradd gystadlu a chafwyd cefnogaeth gwych fel arfer gan yr ysgolion, y plant a’u teuluoedd.

Diolch i bawb a gefnogodd mewn unrhyw ffordd, i’r beirniaid a’r pwyllgor am eu holl waith. Roedd yn llwyddiant ysgubol eto eleni. Mae pawb yn barod yn edrych ymlaen at Eisteddfod 2020!

Dyma uchafbwyntiau’r nos Wener:

 

A dyma’r corau, ar eu hyd:

Canlyniadau nos Wener

Unawd Lleisiol (uwchradd):
3ydd – Caradog Jones
2il – Elin Dafydd
1af – Erin Williams

Unawd agored:
2il – Elin Mai
1af – Erin Fflur

Offerynnol:
3ydd – Ela Williams
2il – Glyn Porter
1af – Gwydion Rhys

Rhaglen o adloniant:
3ydd – Ensemble chwyth
2il – Ysgol Dyffryn Ogwen
1af – Ensemble pres Ysgol Syr Hugh Owen

Côr:
3ydd – Llan Bob Man
2il – Côrnarfon
1af- Côr Meibion y Penrhyn

Perfformiad uwchradd mwyaf addawol:
Gwydion Rhys