Dysgu am hanes y Dyffryn

Mae tymor newydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar gychwyn, gyda llu o bynciau difyr ar yr arlwy.

Carwyn
gan Carwyn

Mae tymor newydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar gychwyn, gyda llu o bynciau difyr ar yr arlwy ar gyfer y misoedd i ddod.

Dewch draw i Festri Capel Jerusalem, Bethesda i ddysgu mwy am hanes ein hardal.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu cynnal yr ail nos Lun ymhob mis, gan gychwyn am 7pm ag eithrio y cyfarfod cyntaf (mis Hydref). Ar gyfer cyfarfod cyntaf y tymor, cynhelir y cyfarfod blynyddol am 7pm, gyda’r ddarlith yn cychwyn am 7.30pm.

Y darlithoedd ar gyfer tymor 2019/20 fydd:

  • Nos Lun, 14 Hydref – 7pm: Cyfarfod Blynyddol; 7.30pm: Elin Tomos: Merched a’r Gymuned Chwarelyddol
  • Nos Lun, 11 Tachwedd – 7pm: Alun Roberts: Cysylltiad Teulu Gwern Gôf Isaf, Capel Curig a Bwthyn Ogwen
  • Nos Lun, 9 Rhagfyr – 7pm: Deri Tomos: Gwyddonwyr Dyffryn Ogwen
  • Nos Lun, 13 Ionawr 2020 – Howard Huws: Saint Dyffryn Ogwen
  • Nos Lun, 12 Chwefror 2020 – David Jenkins: “Gyda’r amcan o roddi cyfleusterau i chwarelwyr Bethesda wneud defnydd enillfawro’u harian” – hanes Cwmni Llongau Bethesda, 1877-1898
  • Nos Lun, 9 Mawrth 2020 – Ieuan Wyn: Teulu Brenhinol Cymru ac Arllechwedd (Darlith Goffa Rhiannon Rowlands)

Bydd cyfanswm o £6 i’w dalu am y gyfres o ddarlithoedd i rhai mewn gwaith, £3 i bensiynwyr a phobl diwaith. Am ddim i ddisgyblion ysgol. Cost darlithoedd unigol – £1.50.