Ar ddydd Llun hanner tymor (Hydref 28), aeth Clwb Ieuenctid Mynydd Llandegai ar daith cerdded noddedig ar hyd rhan o’r Llwybr Llechi. Yr oedd y plant yn wych wrth iddynt gerdded pellter o chwe milltir. Diolch o galon i Joey (Anelu) ac i Cemlyn am eu holl help.
Pwrpas y daith yw i godi arian ar gyfer gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffroes gyda’r plant. Ar y 3ydd o Ragfyr, bydd y plant yn mynd ar daith cerdded arall. Y tro yma, byddent yn cwblhau ‘taith gerdded nos’ i Gwm Idwal.
Mae’r clwb ieuenctid yn cynnal sawl gweithgaredd trwy’r flwyddyn, ac yn agored pob nos Fawrth yn Neuadd Mynydd Llandegai. Mae’r clwb yn rhedeg i blant 6 i 11 mlwydd oed rhwng 6pm-7pm, ac yn agored i blant 11 i 18 mlwydd oed rhwng 7pm-8:30pm.
Mae modd cefnogir clwb, a noddir plant drwy gyfrannu at yr achos ar wefan ‘JustGiving’. Diolch yn fawr iawn i unrhyw un am eu cefnogaeth – Cefnogwch yma.
Dyma stori gan griw clwb ieuenctid Mynydd Llandegai ar gyfer gwefan fro newydd Ogwen360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru