Carwen y Car Cymunedol Cynaliadwy

Partneriaeth Ogwen yn lansio Carwen y car trydan ym Methesda

gan Huw Davies

Bendigedig oedd cael lansio Carwen Car Trydan Cymunedol ym Methesda fore Sadwrn Tachwedd 9fed. Mae’r car yn rhan o gynllun peilot drwy Arloesi Gwynedd Wledig i brofi defnydd cerbydau batri am 12 mis a hynny wrth greu cyfleoedd gwirfoddoli i gludo unigolion o’r dyffryn i apwyntiadau, digwyddiadau, siopa ac ati.

Daeth yr arbenigwr cerbydau trydan Neil Lewis o Sir Gaerfyrddin atom am y bore (drwy’r eira’n ben Llyn Ogwen!) a rhannodd ei wybodaeth a’i brofiadau gyda chriw o unigolion oedd â diddordeb dysgu mwy am drafnidiaeth gynaliadwy a chynorthwyo eraill yn eu cymuned.

Dywedodd Mel Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen “Mae cael defnydd o Carwen am flwyddyn gron yn gyfle gwych inni gynorthwyo pobl ar hyd a lled y dyffryn, taclo unigedd gwledig a hyrwyddo defnydd o dechnoleg newydd sy’n defnyddio ynni gwyrdd”. Am fwy o fanylion am sut i logi Carwen neu’i wirfoddoli i’w gyrru cysylltwch â ni – huw@ogwen.org, 01248602131.

 

Gwlyliwch recordiad byw o’r digwyddiad yma: https://www.facebook.com/ogwen360/videos/818772891872289/